Adolygiad: Taith o’r Llyfrgell efo Fflur Dafydd - Golwg 360

Asia Rybelska a Marta Klonowska fu ar daith dywys arbennig o’r Llyfrgell Genedlaethol wythnos diwethaf.

Ddydd Gwener ddiwethaf fe gawsom gyfle i gael gwybod am gyfrinachau’r nofel fwyaf adnabyddus gan Fflur Dafydd, “Y Llyfrgell”, trwy deithio o gwmpas llefydd cudd y Llyfrgell Genedlaethol dan arweiniad yr awdures ei hun.

Y safle cyntaf oedd y neuadd, yn ein hatgoffa o benodau cynnar ‘Y Llyfrgell’, pan mae un o’r prif gymeriadau, Eben Prydderch, yn ciwio o flaen drws yr adeilad.

Yn y neuadd, fel ym mhob llecyn ar ôl hynny, roedd yr awdures yn trafod ei phrofiadau ac atgofion o’r adeg pan fyddai’n ymweld â’r llyfrgell bob dydd wrth iddi wneud ei hymchwil llenyddol. Roedd hi wedyn yn darllen darnau o’r “Llyfrgell sydd yn ymwneud â’r llefydd oeddem yn eu gweld.”

Er bod pawb ar y daith yn gyfarwydd â’r nofel, yn sicr, profiad unigryw oedd gallu clywed y nofelwraig yn dehongli yn ei geiriau ei hun, rhannu ffeithiau annisgwyl, a thorri ar y darlleniad ambell dro gyda sylwadau ffraeth.

Technoleg

Ar ôl hynny, yn dilyn llwybr cymeriadau’r nofel, aethom i stafell y porthorion, sy’n llawn o gamerâu’n recordio pob cam yr ymwelwyr. Yn y fan honno, roedd Fflur Dafydd yn trafod agweddau ei nofel sydd a wnelo â phwysigrwydd y dechnoleg yn y byd sydd ohoni – yn enwedig y cwestiwn a ydy’n bosib ystumio ac addasu delweddau o’n hunain trwy ddefnydd o dechnoleg, yn ogystal â delwedd ein hanes a gorffennol.

Y llefydd nesaf a welsom oedd yr ystafell ddarllen, neuadd ganol â’r balconïau o’i chwmpas (cefndir i un o rannau digrifaf y nofel) ac, ar y diwedd, yr archifau tanddaearol.

Nid oedd hi’n bosib inni gyrraedd to’r adeilad, sydd ddim yn beth drwg, efallai, wrth ystyried y diweddglo trychinebus i rai o gymeriadau’r nofel yn y fan honno.

Roedd hi’n annisgwyl darganfod nad oedd Fflur Dafydd wedi gweld nifer o rannau’r llyfrgell cyn iddi ddechrau sgwennu’r nofel, a chafodd rhai elfennau eu creu yn ei dychymyg yn unig - er enghraifft twneli a gysylltai ystafelloedd ac arwain i gelloedd dirgel. Ond, yn ddiddorol, mae rhai o’r creadigaethau dychmygol yn agos iawn at strwythurau go iawn y llyfrgell.

Hap a damwain

Roedd yn ddiddorol hefyd cael gwybod am broses creu’r nofel – er enghraifft sut oedd enw un o brif gymeriadau – Eben – wedi’i ddewis ar hap yn dylanwadu datblygiad y plot wrth i’r awdures ddod o hyd i anagram yr enw – ‘e-neb’ - a chysylltiad rhwng y cymeriad ffuglennol ac artist go iawn, Eben Fardd.

Tua diwedd y daith, yn yr archifau o dan y ddaear, cawsom gyfle i glywed rhagor am y bardd hwn a hynny’n arwain i drafod un o brif themâu’r nofel – sef pwysigrwydd sefydliadau fel y Llyfrgell i gadw a siapio’r cof cyffredin yn ogystal â chof unigolion. Gellid sylweddoli hyn i’r dim wrth inni grwydro coridorau hirion a chlywed arogl yr holl hen gyfrolau. Ac wrth glywed Fflur Dafydd yn siarad yn frwdfrydig amdanynt, roedd hi’n amlwg mai cariad tuag at lyfrau oedd un o’r pethau a ysbrydolodd hi i greu’r stori gyfareddol hon.

Ar y cyfan, roedd y daith yn brofiad difyr iawn, diolch i ddawn adrodd a synnwyr digrifwch Fflur Dafydd. Mwy na thebyg, bydd pawb a gymerodd rhan yn awyddus i ddarllen ‘Y Llyfrgell’ unwaith eto ac edrych ar y nofel o safbwynt newydd, gyda delwedd eglurach yn eu dychymyg.

Ond ar yr un pryd, gan fod cymaint o elfennau’r nofel wedi’i dyfeisio gan yr awdures, does dim rhaid i’r darllenwyr boeni y bydd gweld dirgelion y Llyfrgell go iawn yn ymyrryd â’r darlun a grëwyd yn eu meddwl wrth ddarllen y nofel.

Marta Klonowska, Asia Rybelska

 

 

[http://www.golwg360.com/blog/adolygiadau/79402-taith-o-r-llyfrgell-efo-fflur-dafydd]