Adolygiad 'Atyniad': Glyn Jones

Adolygaid Glyn Jones o Atyniad gan Fflur Dafydd

Dyma'r nofel a enillodd y Fedal Ryddiaith i Fflur Dafydd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006. Hawdd gweld pam.

Llwyddodd i droi lle mor ddiflas ag Ynys Enlli yn garnifal o gynnwrf ac emosiwn a hynny sy'n cario'r nofel yn hytrach na phlot.

Wedi'r cyfan, beth all ddigwydd ar ynys, prin ddwy filltir o hyd?

Y teitl
Mewn gair, busnesu mae'r awdures, a chyfaddef neu beidio, mae helbulon pobl eraill yn fêl ar fysedd pob un ohonom.
Mae'n rhoi cip sydyn inni, ac rydym ni felly am wybod mwy.

Credaf mai dyma arwyddocâd teitl y nofel, Atyniad.
Cawn ein 'hatynnu' at y cymeriadau fel caiff y cymeriadau eu 'hatynnu' at yr ynys.

Ond peidiwch disgwyl darlun neis, neis, o'r ynys hon ychwaith. I'r gwrthwyneb.

Aeth yr awdures ati i rwygo'r darlun o'r ynys ugain mil o saint yn garpiau.

Rhaid canmol ei dychymyg a'i gwreiddioldeb. Mae Enlli'r nofel hon yn ynys o ddiawledigrwydd a gwallgofrwydd.

O'r dudalen gyntaf un mae awyrgylch sinistr lle gallwn deimlo'r tensiwn rhwng y cymeriadau.

Cloddio
Wrth i'r ynyswyr helpu'r archeolegwr gloddio, yn ddiarwybod i bob un ohonynt, maent yn cloddio'n ddyfnach i'w bywydau eu hunain.

Mae pobl yn gorffen â'u cariadon, yn canfod rhai newydd, yn ffraeo, cenfigenu a chasáu.

Caiff mantelli'r unfed ganrif ar hugain eu diosg i ddangos y natur ddynol yn ei holl gymhlethdod cyntefig.

I ganol hyn daw awdures breswyl ifanc sy'n gobeithio canfod symbyliad i ysgrifennu ond yn magu dim ond cariad at yr archeolegydd diflas sy'n ddigon hen i fod yn dad iddi, ac amheuon am y bywyd a adawodd ar ôl ar y tir mawr.

Diddorol yw sylwi nad enwir yr awdures breswyl ond y sonnir amdani yn y person cyntaf. Ai sôn amdani'i hun mae Fflur Dafydd?

Dryslyd braidd yw'r dechrau gyda chymeriadau'n cael eu taflu i'r nofel un ar ôl y llall pan ddylai llenor gyflwyno cymeriadau i'w gynulleidfa yn lle eu hau fel hadau dros bob man. Cyfrais o leiaf un ar ddeg ohonynt yn y bennod gyntaf!

O un i'r llall
Hoffaf y ffordd y mae'r stori yn gwibio rhwng y trydydd person a'r person cyntaf - mae'n newid braf ac yn gyfle inni weld yr ynys mewn ffordd ychydig yn wahanol.

Hoffaf hefyd y ffordd y bu i'r awdures ganolbwyntio ar ddarlunio cymdeithas, ac osgoi'r demtasiwn i ganolbwyntio ar unigolyn.

Mae'r arddull hefyd yn effeithiol. Mae'n syml a dealladwy ond yn frith o ddisgrifiadau cyfoethog.

"Roedd y ffenestri'n gloywi gyda chynhesrwydd teuluol," meddai am y fferm.
Neis te?

Diwedd siomedig
Does gen i fawr o feddwl o'r diwedd - pennod o athronyddu dibendraw.

Does dim tro yn y gynffon.
Does dim digwyddiad cyffroes.
Mae'r stori'n gorffen wrth i'r cymeriadau adael yr ynys.

Credaf hefyd y collwyd cyfleon i greu cynnwrf, fel pan gaiff Justin Bowen ei dwyllo i adael yr ynys. Digwydd hyn mewn brawddeg neu ddwy, a minna'n edrych ymlaen at ffeit go dda.

Er mai nofel i ferched yw hon gyda'i chariad a'i chyfrinachau, mwynheuais innau hi'n fawr fel nofel i swatio o flaen tân gyda hi ganol gaeaf.

Un peth bach arall - y clawr.

Argraffu'r teitl ac enw'r awdur heb brif lythyren - rhywbeth sy'n dân ar fy nghroen ac yn hen arferiad gwirion y byddai'n well inni hebddo.

 

[http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/
llyfrau/adolygiadau/bro-atyniad.shtml
]