Adolygiad 'Atyniad': Hafina Clwyd

Atyniad
Cefndir hyfryd a sgyrsiau ystwyth

Adolygiad Hafina Clwyd o Atyniad gan Fflur Dafydd. Cyfrol Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006. Y Lolfa £6.95

Fum i erioed ar Enlli ond yr wyf yn 'nabod nifer sydd yn taeru mai dyma baradwys Cymru ac ânt yno am seibiant a llonydd a chatharsis bob hyn a hyn.

Er cymaint yr hoffwn gael tipyn o seibiant a llonydd a chatharsis, nid i Enlli yr awn gan nad wyf yn hoff o deimlo bod fy nhraed mewn cyffion.

Hynny yw, bod y cwch i fynd yn ôl i'r tir mawr yn dibynnu ar y gwynt.

Er hynny i'r fan hon yr aeth Fflur Dafydd am gyfnod byr fel awdur preswyl ac y mae'n rhaid ei bod wedi cael budd a maeth oherwydd esgorodd ar gyfrol fechan hyfryd tu hwnt a enillodd iddi'r Fedal Ryddiaith yn Abertawe eleni.

Gwasgu'n noeth
Daeth y wên gyntaf pan ddarllenais y dudalen gyntaf pan fo Cadi a Leri ac Alys a Sinsir yn ofni na fyddai yno ddigon o ddynion, "Rhai y medrech chi eu gwasgu'n noeth yn erbyn wal gerrig dan y lloer".

Os yw'n swnio'n erotig mae hefyd yn swnio'n boenus.

A beth bynnag, yr hyn a glywais i ar hyd y blynyddoedd oedd mai un o'r manteision mawr oedd y diffyg dynion ac mai mynd yno i ddianc rhagddynt yr oedd fy ffrindiau.

Chwilio am gwm tawelwch heb angen golchi trôns a gwneud bwyd yn ddiddiwedd. Rhywbeth hollol wahanol oedd yn corddi Alys a Leri a'r gweddill. Ieuenctid a hormonau er enghraifft.

Yr ynys ei hun
Prif gymeriad y gyfrol yw Ynys Enlli ei hun. Mae'r ynys yn debyg iawn i Dy'r Brawd Mawr. Hynny yw, y mae'n cynnwys nifer o gymeriadau sydd yn medru bod yn ddigon od ac yn mynd ar nerfau ei gilydd.

Oherwydd ar yr ynys y mae yna Nikki a Lea ac Imogen. Dylanwad yr ynys ar y bobl sydd yno yw'r thema.

Yr anhawster mwyaf i mi oedd bod yna gymaint o gymeriadau a bod yn rhaid mynd yn ôl o hyd ac o hyd i weld pwy oedd pwy a pham yr oeddynt yn rhygnu ar ei gilydd.

Ond os oeddwn yn cymysgu rhwng yr holl drigolion ac ymwelwyr pwy fedr anghofio Justin a Lucinda. Dyma ddychanu ardderchog.

Cyfryngis o Gaerdydd ydyn nhw - Justin yno i ffilmio'r bywyd a Lucinda'r cynhyrchydd.

Yr ydym wedi adnabod pobl fel hyn; oriog a hunandybus, dim llychyn o ddiffuantrwydd yn perthyn iddynt. Ac yn llawn angst.

A'r peth mwyaf doniol yw iaith Lucinda wrth gwrs - Wenglish go iawn, iaith lyfis yr ydym yn gyfarwydd ag o.

Wedi llwyddo
Mae Fflur wedi llwyddo i greu cefndir hyfryd ac y mae ei sgyrsiau'n ystwyth ac yn llifo fel triagl.

Mae hi hefyd yn ysgrifennu'n farddonol iawn. (dim syndod o gofio pwy yw hi). Yn wir medrai tudalennau cyfain fod yn vers libre.

Dyma ichi ddarn sydd yn farddoniaeth:-
Porthmeudwy, porthi'r meudwy.
a'r meudwy'n borthladd.
Dos i fyny'r allt,
Cadwa i'r chwith,
a gwylia eto am yr arwydd sy di torri'n ei hanner.

Porthmeudwy. Yn bownsio'n ôl ac ymlaen
rhwng tafod a thaflod,
heb yr un ystyr,
ond yn llawn delweddau.

Mae ganddi ddawn arbennig i ysgrifennu tafodiaith. Rhywbeth y mae ambell awdur a llawer actor yn methu ei wneud.

Mae ganddi hiwmor hefyd. Mae hi mewn un lle'n dychanu colofnwyr.

'Colofn? Dwyt ti ddim yn un o'r rheina sy'n sgrifennu am dy wr a dy blant a dy gi a dy blydi fabi gobeithio. Wy'n casau rheina...ddoe bues i a'r plant yn ...bla bla bla - a gesi di byth beth ddigwyddodd a beth ma hynny'n ddeud am ein cymdeithas ni heddiw ac am foesoldeb... ....efalle mai petha arwynebol felly ydy pob colofn, yn y bôn.'

Felly dyna fy rhoi fi yn fy lle.
A'i mam!

 

[http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/
llyfrau/adolygiadau/639-atyniad.shtml
]