Helsinki

Yr eiliad da ni’n camu mas trw’r drws
Y’n ni cerdded nol am bedwar yn y bore tlws
Wedes i “dos di arhosa i,”
Taset ti ddim di mynnu
Sen i ddim ‘di cwmpo lawr y star
Set ti ddim di rhoi dy law ar fy ngwar
Sen i byth di troi a gweld yr olwg da’r
Yn ddwfn yn dy lygaid
A gan bo fi ma
Man a man i fi barhau i syllu
Achos weithie ma lot mwy ‘na’r ha
Ar waelod un stryd hir yn Helsinki

Ti’n cofio’r lle na o’r enw Pernio
A’r esgus perffeth i gael yfed Pernod
Nes allan o’r botel
Fe ddaeth Mikko a’n denu i’r sauna
Dewch i’r sauna medde fe
Ma na ddigon o stem ma na ddigon o le
Ond yng ngefn y sauna
Ma ‘na droad i’r dde
Sy’n arwain i dy wely
A gan bo fi ma
Man a man i fi barhau i gyffesu
Weithie ma lot mwy na’r ha
Yng ngornel un sauna’n Helsinki

Yn Helsinki sai’r un un
Ma’r cwrw’n felyn ac yn sych
Ma’r nos yn ole fel y dydd, dwi byth yn cau fy llyged
Yn Helsinki sai’r un peth
Fymryn gwaeth a fymryn gwell
Ond dyw’r wawr ddim fymryn nes, o plis ga i gau fy llyged

Tase ty y fenyw ‘na
heb losgi i’r llawr
swn i ddim yma i weld
toriad y wawr
o leia nid fel rwy’n ei weld e nawr
ar harbwr Helsinki
lle’n y byd ma’r darne’n mynd?
o’r pethe na nes i, y pethe prin,
ma nhw gyd yn ffitio at ‘i gilydd fan hyn
a ti yw’r darn ola
a gan bo fi ma
man a man i fi barhau i ddyfalu
sut le fyse ‘myd i nawr
heb fi gerdded yr un stryd yn Helsinki

Yn Helsinki sai’r un un (Paid a ‘ngadael i lawr Helsinki)
Ma’r cwrw’n felyn ac yn sych
Ma’r nos yn ole fel y dydd, dwi byth yn cau fy llyged
Yn Helsinki sai’r un peth
Fymryn gwaeth a fymryn gwell
Ond dyw’r wawr ddim fymryn nes, o plis ga i gau fy llyged

 

HELSINKI: the account of one crazy night in the Finnish capital, and how one decision triggers a chain of bizarre events and surreal experiences. It’s also about the uncanny experience of being ‘elsewhere’, not only geographically but emotionally, and how most people are essentially not-themselves in a foreign country.

 

« nol i 'cerddoriaeth'