Pan Oeddwn Fachgen

Pan oeddwn fachgen
O’n i’n mynd i neud pethe mowr
On i’n methu gyrru car so ges i gitar
I yrru fi rownd

A unweth fi stopio gwenu
A dechrau chwarae’r bâs
Wel odd gen i lwyth o ffrindie
Gyd di gwisgo run fath
A chyn pen y noson
Odd y drysau ‘di agor mas...

Pan oeddwn fachgen
On nhw’n gweud bo fi’n well na neb
So ges i hat a ges i grap ar rap
A’r amp lan i unarddeg
Ond nes i ddechre magu bola
Ath y crysau t yn llai
Nes odd pawb o fewn yr SRG
Di dechre gweld bai
A chyn pen y noson o’dd y drysau i gyd ar gau...

O’n i’n meddwl mai llathen o’r un brethyn oedd pawb
O’n i’n meddwl bod brethyn a llathen yn mynd law yn llaw
Ond mewn un llathen o’u brethyn nhw es i’n sownd
Odd dim cweit digon o’n llathen i fynd rownd

Pan oeddwn fachgen
Odd na wastad rhyw fenyw well
Odd hi ddim yn gyrru car
Ond cyn hir odd hi’n gyrru popeth

Ac er i fi golli’r bola
A dechre gwitho mas
Dringodd hi reit heibio
Fi yn ei sodlau mawr cas
Cyn pen y diwrnod
Oedd ei gigs hi ‘di gwerthu mas

O’n i’n meddwl mai llathen o’r un brethyn oedd pawb
O’n i’n meddwl bod brethyn a llathen yn mynd law yn llaw
Ond mewn un llathen o’u brethyn nhw es i’n sownd
Odd dim cweit digon o’n llathen i fynd rownd

Pan oeddwn, oeddwn fachgen
Digon o frethyn yn fy llathen i.

 

WHEN I WAS A BOY: A song about being a pseudo-macho, guitar-thrashing, hat-wearing, superhero on the Welsh Music Scene, only to have your popularity quashed by a female singer with a stronger image and dangerous heels. It’s a hard life.

 

« nol i 'cerddoriaeth'