Y Gwir am Gelwydd

Ma ‘na duedd, i feddwl
Nad yw’r bore byth yn para am hir
Ond gyda hi, o’dd e’n ddi-ddiwedd
O’dd na frecwast rôl brecwast o hyd

Pryd ti’n mynd i sylweddoli fod y platiau’n cracio yn y gwres?
Pryd ti’n mynd i dderbyn fod ‘na fai?
Sut dwi fod i weiddi mas yn gas pan fydd y pnawn yn dod yn nes?
Haws i iste nol, cadw ngheg ar gau, fel pob tro o’r blaen.

Dyddiau hir, cariad a minlliw,
Cwpan coffi sy’n gusan i gyd
Dyma ni, dyma’n stori
Y cwpan gwag a’r tywelion yn ‘lyb.

Be dwi fod i neud ond dal i drio cyfareddu un neu ddau
A dal y ‘ngalon fach yn gynnes yn fy llaw?
Dwi ddim yn mynd i fyw fy mywyd i gyd yn credu ma arna’ i ma’r bai
Gad fi fynd a gad fi fod a gad y trai

Ma bywyd yn galed, a brecwast yn ddoniol,
A ‘does na ddim troi nôl.
Un dywediad ynfyd, mewn byd o wendid
Dyna’r gwir am gelwydd.

 

« nol i 'cerddoriaeth'