Archif: Erthyglau WM: Ebrill-Awst 2009

» Ebrill - Awst 2009

» Ionawr - Mawrth 2009

» Hydref - Rhagfyr 2008

» Gorffennaf - Medi 2008

» Ebrill - Mehefin 2008

» Ionawr - Mawrth 2008

Mae Fflur yn golofnydd teledu wythnosol i’r Western Mail, ac yn ymddangos yng nghylchgrawn penwythnos y WM.

Darllenwch ei cholofn diweddaraf yma:


Mae hi bellach yn ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod, ac am y tro cyntaf eleni, dwi’n ddigon hen i fod yn ymgymryd â’r sgyrsiau hynny ynghylch “Steddfod Bala ’97.” Ond dwi ‘di addo i’n hunan na fydda’ i’n cymharu’r ddwy Eisteddfod yn ormodol gan ei bod hi ‘mond yn deg i adael i bob Eisteddfod gael ei blas, ei chymeriad a’i mwd ei hun.

Mae’n gyfle hefyd i fwrw golwg ar newidiadau’r byd darlledu o fewn y ddegawd diwethaf, ac mae’n wych gweld fod yr arlwy bellach yn annog Cymru gyfan i fwynhau pob elfen o’r wyl arbennig hon trwy gyfrwng y sgrin fach. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol bellach mwy fel y gemau Olympaidd, gyda bron gymaint o gampau a ystumiau, a hanner y cystadleuwyr mewn gwisgoedd yr un mor aruchel. Mae ‘na sawl naid driphlyg yn digwydd, a mwy nag un medal yn cael ei rhoi. Dwi ddim yn siwr pa mor heini yw’r rheiny sy’n cystadlu cofiwch...

Eisioes mae sion a sibrydion ar led ynghylch y prif gystadlaethau, ac wrth weld y ddogfen Saith Bardd, mae’n amlwg fod y to iau bellach wedi hen etifeddu holl obsesiynau Eisteddfodol y to hyn. Er ‘mod i’n ffan o waith sawl un o’r beirdd hyn, braidd yn anghyfforddus i mi yw’r syniad o ‘Frawdoliaeth’ farddonol – gyda ‘mond un bardd benywaidd yn eu plith - gan fod hynny ‘mond yn atgyfnerthu yr un hen werthoedd gwrywaidd, confensiynol. Ond braf o beth yw gweld cystadlu yn cael ei drafod mor agored am unwaith, rhywbeth sy’n sicr o godi chwilfrydedd ynom i weld a fydd un ohonynt yn cipio un o’r prif wobrau eleni.

Mae pawb yn gwybod mai llipryn Eisteddfodol y bûm i erioed, ond rhaid cyfaddef mai gwisg wen arall sydd gen i ymlaen heddiw. Wrth i chi ddarllen hwn fe fyddaf i ar y ffordd i’r capel yn fy ffrog briodas, i seremoni o fath gwahanol iawn!

01/08/09

 

Roedd rhifyn olaf yr haf o Uned 5 yn ddigon teimladwy yr wythnos hon, gan mai dyma rhifyn olaf y gyflwynwraig Mari Løvgreen, sydd wedi gwneud cryn argraff ers dechrau’r swydd bum mlynedd yn ôl. Lle y byddai rhaglen ‘deyrnged’ wedi edrych yn eithaf ffuantus a dros ben llestri mewn sawl achos, roeddwn yn cael yr argraff bod pawb oedd yn ymwneud â’r rhaglen wirioneddol eisiau gwneud cyfiawnder â Mari wrth ffarwelio â hi.

Mae penderfyniad Mari i adael Uned 5 yn gam dewr a doeth dros ben, ac fe fyddai Cymru yn sicr ar ei hennill pe bai mwy o gyflwynwyr yn gallu synhwyro ei bod hi’n ‘amser i fynd’, gan symud ymlaen at sialensau newydd. Roedd hi’n amlwg wrth weld clipiau cynnar o yrfa Mari ei bod hi wedi dysgu wrth wneud y swydd – (yn hytrach na chael ei hyfforddi o flaen llaw) – a bod hwn wedi bod yn gyfle unigryw, ac annisgwyl iddi hi. Ac er hynny, neu efallai oherwydd hynny, fe gawsom ni’r pleser o gael ein difyrru gan un o’r cyflwynwyr mwyaf naturiol i ymddangos ar ein sianel ers rai blynyddoedd. Mae hi’n braf meddwl y caiff rhywun arall nawr gyfle tebyg, a dwi’n mawr obeithio y bydd modd canfod nid ‘mond cyflwynydd arall, ond ‘personoliaeth’, sef yr hyn sydd wedi nodweddu Mari ers iddi gamu ar y sgrin am y tro cyntaf.

Mi nes i chwerthin lot wrth wylio’r rhaglen olaf hon, ar hiwmor abswrd Mari, ac ar ei thueddiad i beidio a chymryd ei hun ormod o ddifrif. Mae unrhywun sydd wedi bod ar set Uned 5 yn gwybod bod Mari yn union yr un peth o flaen y camera ag ydy hi tu nôl i’r camera, ac mae’r diffuantrwydd hwnnw wedi codi safon Uned 5 dros y blynyddoedd diwethaf. Ond wedi pum mlynedd o weiddi “Gwenwch, mae’n nos Wener!” dwi’n meddwl fod Mari Løvgreen yn llwyr haeddu hawlio’i nos Wener yn ôl...

25/07/09

 

Yr wythnos hon, am y tro cyntaf ers meitin, ro’n i adre ar nos Sadwrn, ac felly nes i fanteisio ar y cyfle i wylio Côr y Byd o Eisteddfod Llangollen. Dwi ddim yn gwybod ai fi sydd wedi cyrraedd rhyw oedran arbennig, neu a yw’r gystadleuaeth hon mor wirioneddol hynod nes gwneud i chi eisiau hepgor pob un nos Sadwrn er ei mwyn, ond yn sicr nid oedd modd i fi symud cam o’m sedd. Dwi’n gwylio cystadlaethau corawl yn y modd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwylio chwaraeon - gan weiddi a chlapio a neidio am yn ail, ac fel unrhyw gefnogwr chwaraeon da, ro’n i hefyd yn hollol blwyfol wrth gefnogi Ysgol Gerdd Ceredigion.

Ond yn sicr mae ‘na rhyw urddas yn perthyn i Eisteddfod Llangollen sy’n gwbl unigryw yn ein gwlad fach ni. Ddwy flynedd yn ôl, ro’n i yn yr Eisteddfod, yn teimlo’n falch i fod ynghanol yr holl amrywiaeth, ac i deimlo balchder, hefyd, fod ein hiaith ni yn ymddoddi’n un â degau o ieithoedd a diwylliannau eraill - a bod Cymru yn cael ei gwerthfawrogi gan ei hymwelwyr. Dwi yn meddwl ei bod hi’n eithaf arwyddocaol hefyd mai S4C yw’r unig sianel yng Nghymru sy’n rhoi sylw teilwng i’r wyl hon - gan ein bod ninnau, hefyd, fel Cymry Cymraeg, yn gwerthfawrogi lleiafrifoedd a ieithoedd eraill mewn modd gwbl ddiffuant. Tra bod BBC Wales yn dangos canlyniadau’r Loteri Cenedlaethol a Casualty, ry’n ni’n eisioes yn agor drws ehangach ar y byd, ac mae safon y darllediadau a’r sylwebaeth yn adlewychu hynny.

Efallai fod hi’n werth aros mewn ar nos Sadwrn, felly, ‘mond i deimlo fod ein diwylliant ni mewn gwirionedd yn fwyafrifol wrth uno â lleiafrifoedd a ieithoedd eraill y byd. Yr unig beth sy’n sbwylio’r cysyniad eangfrydig yma yw mai côr gwrywaidd o America a gipiodd deitl Côr y Byd...

18/07/09

 

Yr wythnos hon, fe’m lloriwyd yn llwyr gan y rhaglen ‘Cyfrinach Olaf Frida’, sef rhaglen ddogfen bwerus dros ben yn olrhain hanes marwolaeth (neu lofruddiaeth) Frida Williams, hen nain y newyddiadurwraig a’r bardd Karen Owen. Yn wahanol i nifer o raglenni ‘dirgelwch’, roedd ‘na rhywbeth diffuant yn y modd y cafodd y stori hon ei hadrodd, ac er mor erchyll a thywyll yr oedd ambell fanylyn o’r stori, roedd rhywun yn teimlo fod bwriadau clir Karen yn ein denu’n reit i grombil y stori, heb wneud i ni deimlo’n annifyr, a chan hoelio sylw’r gwyliwr yn llwyr ar yr hanes rhyfeddol yma.

A hithau’n newyddiadurwraig o fri, ‘does rhyfedd fod y rhaglen ei hun wedi nodweddu newyddiaduraeth ar ei orau - dim sentimentaleiddo, dim gor-gyffroi, a chan strwythuro’r hanes o fewn naratif clir, pwrpasol, a phob datblygiad yn cael ei ddatgelu ar adegau tyngedfennol, pwysig. Roedd hi’n amlwg fod Karen yn awyddus i ymchwilio’n drylwyr i bob elfen o’r stori ac yn cael ei gyrru gan ffeithiau yn hytrach na dibynnu ar ddamcaniaethu gwag, a chafwyd hefyd cyfweliadau angenrheidiol gyda phobl eraill a oedd â chysylltiad â’r stori, mewn modd sensitif, gan barchu eu preifatrwydd. Roedd y gwaith camera hefyd yn arbennig o dda - yn drawiadol ac yn gelfydd, ond mewn ffordd a oedd yn gwbl bwrpasol ac yn ategu at y cyfanwaith.

Rhag ofn nad ydych eto wedi gweld y rhaglen hon, wna i ddim datgelu a fu Karen yn llwyddiannus wrth geisio dod i’r gwir ai peidio – ond un peth sy’n sicr, ni fydd modd i neb bellach anghofio am Frida Williams. Er mai dim ond F. Williams sydd wedi ei nodi ar ei charreg bedd, mae hi bellach yn gymeriad o gig a gwaed i’r rhelyw ohonom, a gorchest fawr y rhaglen hon oedd ein hannog ni i barhau, fel Karen, i ofyn y cwestiynau anodd ar ei rhan.

11/07/09

 

Gwyl Bywyd Gwerin y Smithsonian gafodd y prif sylw ar y cyfryngau yr wythnos hon, gwyl unigryw yn Washington DC sydd â Chymru yn ganolbwynt iddi. Cafwyd pob math o sylwadau – dwl a difrifol – ar bob math o raglenni dwl a difrifol – ond efallai mai sylw Jon Gower ar Wedi 7 sydd wedi aros yn fy nghof bennaf, sef bod yr wyl yn gyfle i ni fel Cymry ddal drych atom ni’n hunain, a gweld eich hunain – ein dwli a’n difrifoldeb – mewn ffyrdd newydd sbon. Fel yr awgrymodd yntau, mae’n bwysig i ni werthfawrogi’r hyn sydd gennym ni, ond hefyd i gwestiynu elfennau o’n diwylliant.

Gyda hynny mewn golwg, roedd y rhifyn Americanaidd o ‘Pawb a’i Farn’ yn ddifyr dros ben. Nid yn gymaint oherwydd y cynnwys, ond oherwydd iddi ddod yn amlwg o’r dechrau mai rhaglen am America oedd hon, trwy gyfrwng y Gymraeg, yn hytrach na rhaglen am Gymru trwy lygaid Americanwyr. Ers dechrau’r Smithsonian, mae’r cyffro wedi troi o gylch y ffaith bod Cymru yn cael sylw gan America – ond prin iawn yw’r sylw y mae’r America yma – sef America’r alltud, America’r rheiny sydd oddi cartref – yn ei gael gan y Cymry, ac roedd hi’n bwysig i’w safbwyntiau nhw gael eu clywed. “Pam nad oes mwy o sylw i Gymru yn America?” gofynnodd un holwr. Awgrym nifer o Gymry America oedd y dylid gofyn y cwestiwn hynny yng Nghymru yn gyntaf.

Cafwyd hefyd y trafodaethau arferol am wleidyddiaeth America, a chyfle prin i gael safbwynt unigryw y rheiny sydd wedi bod ynghanol y bwrlwm, y bobl hynny sydd wedi bwrw pleidlais ac wedi byw o dan lywodraeth George Bush. Ac er fod ‘na gonsensws fod gan Arlywydd Obama dipyn o waith i’w wneud cyn profi ei hun yn deilwng o’r holl glod a’r sylw, mae’n rhaid i ni gydnabod mai dyma’r her sydd yn ein wynebu ninnau, hefyd, wedi i wyl y Smithsonian ddod i ben.

04/07/09

 

Mae unrhyw un sy’n gwrando ar Radio Cymru yn gyson wedi hen arfer â ffenomenon ‘Cofio’ – y rhaglen radio sy’n ein tywys yn ôl i’r gorffennol, a hynny mor gynnar ar fore Sadwrn nes ‘neud i chi gredu eich bod wedi deffro mewn oes arall. Yn y pendraw, roedd hyn yn bownd o gydio yn nychymyg S4C, sianel sy’n or-hoff o symud am-yn-ôl yn hytrach nag ymlaen.

Yr oedd y fersiwn deledu o ‘Cofio’ yn rhaglen ddof iawn, gyda Heledd Cynwal yn dangos y parch arferol i’w gwesteion a’r rheiny’n ymateb yn ddigon cwrtais yn ôl. Ond eto, roedd ‘na rhywbeth anghyfforddus am yr holl beth, a’r hyn sy’n fy nharo am y rhaglen hon yw’r ffaith ei bod yn cynnwys pobl nad ydynt wedi cael eu anghofio o bell ffordd. Gyda archif itv Wales mor gynhwysfawr, does dim angen mynd yn bell iawn i ganfod clipiau o raglenni unigryw Caryl Parry Jones nac i ffeindio clipiau o oes aur Gareth Edwards – ac mae ffocws y rhaglen hon ar bobl sydd wedi parhau yn llygad y cyhoedd, yn hytrach na’r rheiny sydd ychydig ar y cyrion – y rheiny sydd o bosib angen cael eu hatgyfodi a’u dathlu.

Peth rhyfedd ar y naw yw talu teyrnged i bobl sydd yn dal i fod yn fyw – a sydd dal a chyfraniad i’w wneud – a rhyfeddach fyth yw natur ail-adroddus ein hanes, a’r tueddiad yma sydd gennym i atgyfnerthu cyfnodau penodol. Ry’n ni, wrth wneud hyn, yn cryfhau’r cysyniad mai dyma’r bobl bwysig, a dyma’r cyfnodau ffurfiannol yn ein diwylliant, ac mae hi’n amhosib i wneud hyn heb hepgor nifer o bobl eraill sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol – y rheiny fydd yn cael eu dileu’n ara’ deg o’n hanes ni os nad ydym yn ofalus. A phwy yw’r rheiny meddech chi? Dwi ddim yn gwbod, am ‘mod i eisioes wedi cael fy nghyflyru i anghofio amdanyn nhw…

27/06/09

 

Dychwelodd y gyfres Caerdydd i’r sgrin yr wythnos hon, yn llawn delweddau tywyll a golygfeydd trawiadol. Mae hon yn un o’r cyfresi prin sydd yn fy nghyffroi, ac er nad yw hi’n taro deuddeg bob tro, dwi yn meddwl ei bod hi’n gofnod diwylliannol pwysig iawn o hyder newydd ein prifddinas, yr amrywiaeth o bobl sy’n byw ynddi, ac y dylem fod yn ddiolchgar bod modd mynegi y profiad dinesig trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg mewn ffordd sydd mor gyfredol a heriol.

Erbyn hyn, mae ‘na dros flwyddyn ers i ni adael Peter Marshall mewn pwll o waed ar lawr yr ystafell ‘molchi, ac er nad oedd hi’n syndod i neb ei fod wedi goresgyn (yn bennaf am fod Ryland Teifi wedi gwneud sawl cyfweliad am y gyfres newydd – cliw bach cyfleus!), roedd perfformiad yr actor hynod hwn yn gynnil dros ben, ac o fewn rhai munudau roeddem ni eisoes wedi esgyn i dir tipyn mwy cyfoethog o ran naratif a chymeriad. Unwaith eto, y mae Mali Harries yn wrthbwynt gwych– ac mae pob eiliad o berfformiad y ddau yma yn gwneud i chi anghofio’n llwyr mai cymeriadau yw’r rhain, yn hytrach na phobl go iawn. Nhw yw canol llonydd distaw y trobwll prysur hwn, ac mae’r cyfan sy’n digwydd o’u cwmpas yn gryfach o’r herwydd.

Trueni, felly, am y perfformiadau anghynnnil – ac mae’n rhaid i mi gyfaddef ‘mod i’n ei chael hi’n anodd i weld sut fydd modd datblygu cymeriadau Natasha (Ffion Williams) a Ceri (Siwan Morris) o fewn y gyfres hon – cymeriadau sy’n gwneud imi deimlo’n bur anghyfforddus wrth wylio. Efallai mai’r prif broblem yw fod y cymeriadau yma wedi ei selio ar stereoteip-o-fath, a’i bod hi’n anodd, felly, i’r actorion i ddatblygu tu hwnt i hynny. Yn achos y ddwy, ry’ch chi’n ymwybodol iawn mai actorion yn adrodd sgript sydd yma, ac mae eu llygaid dramatig fel petaen nhw ar fin ffrwydro allan o’u socedi!

20/06/09

 

Roedd gwylio ‘O Flaen dy Lygaid: Gorawen’ yr wythnos hon yn brofiad anghyfforddus i ddweud y lleiaf. Ar un olwg, roedd yma ymdrech ddewr, ac mae’n siwr, diffuant, gan y cynhyrchydd a’r cyflwynydd Ali Yassine i dynnu sylw at salwch meddwl, trwy ganolbwyntio ar achos David Edwards, un o arloeswyr mwyaf y 90au yng Nghymru. Serch hynny, roedd hi’n amlwg, er nad oedd Dave ei hun mewn cyflwr i gael ei holi ar sawl adeg, fod y camerâu wedi parhau i’w ffilmio, doed a ddelo.

Un o’r adegau mwyaf poenus imi oedd gweld Dave yn mynd i brynu alcohol o’r archfarchnad. Ffilmwyd ei gamau araf, ei weld yn cydio yn y botel oddi ar y silff, hyd yn oed ei weld yn talu wrth y til. Mae’r cysyniad o ‘greu’ golygfeydd fel hyn ar gyfer cynulleidfa yn wyrdroedig, braidd, ac wrth ystyried fod gan David broblem yfed ddifrifol, roedd hyn hyd yn oed yn anghyfrifol ar ran y tim cynhyrchu. Wrth ystyried ein bod yn gwybod fod ganddo broblem yfed, roedd y golygfeydd yma yn gwbl ddiangen, a thu hwnt i weld Ali’n dweud wrtho fod yfed ‘ddim yn gwneud lles iddo’, gwnaed dim ymdrech i daclo’r broblem yma o gwbl – ac roedd diweddglo’r rhaglen yn dduach nag un o ganeuon Datblygu, a hynny heb y gic glyfar yn ei chynffon.

Rhaid oedd wedyn gwylio rywbeth arall er mwyn anghofio’r profiad, a dyma fi’n glanio ym myd operatig Canwr y Byd 2009 ar BBC 2. Hawdd anghofio fod gennym gystadleuaeth mor safonol a hyn yng Nghymru, a’i bod yn ein gosod ar y map rhyngwladol mewn ffordd unigryw dros ben. Yr unig broblem gyda’r rhaglen hon oedd llediaith ofnadwy Aled Jones wrth iddo ynganu enwau Cymreig. Er ei fod yn Gymro Cymraeg, mae’n amlwg ei fod wedi arfer â plesio’r glust Seisnig. Pwy ar y ddaear, Aled, yw Alien Manahan Thomas?

13/06/09

 


Rhyw wythnos yn ôl fe ofynnwyd imi sôn am Britain’s Got Talent ar raglen radio. Roedd hi’n un o’r galwadau ffôn hynny lle'r oedd yr ymchwilydd mor gyffrous fod rhywun o’r diwedd wedi ateb, fe siaradodd hi am bum munud cyfan cyn oedi. Cefais hanes y cynhyrchiad o’r dechrau cyntaf un, a chrynodeb o bob un person i ymddangos arni erioed.

Yn y diwedd, mi wnes i wrthod y cyfle i gael gwyntyllu aer poeth am raglen nad wyf erioed wedi ei gweld, a sut y mae hi’n ecsbloetio pobl nad wyf yn becso iot amdanyn nhw, ar sianel nad wyf byth yn ei gwylio. Ond ers hynny, dwi wedi sylwi fod y rhaglen hon yn dechrau cyffwrdd â fy mywyd i – gan ei bod yn raddol yn cripian i mewn i’n diwylliant.

Cafodd ‘Britain’s Got Talent’ ei chrybwyll mwy nag unwaith yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd, gyda dyfyniadau megis ‘Wales’s Got Talent’ yn atseinio trwy ganolfan y Mileniwm. Bwriad y cymariaethau oedd dangos cymaint o ‘flaen ein hamser’ ydym ni fel cenedl, ond roedd ‘na rywbeth afiach am orfod cydnabod ‘Prydeindod’ yn y cyd-destun hwn ar S4C. Ymhen dim, roedd Paul Potts ar Wedi 7 ac Aled Haydn Jones yn diffinio’r wyl ar Radio 1 fel “Britain’s Got Talent ond ni oedd yn neud e gyntaf.” Mae pawb, fe ymddengys, wedi anghofio mai gwyl ieuenctid fwyaf Ewrop yw hi!

Ac os ydym ni i gyd yn poeni gymaint â hynny am iechyd meddwl Susan Boyle druan (sy’n Albanes gyda llaw – ond bellach, yng nghyd-destun y rhaglen, yn Brydeinwraig) - fe fyddai’n dda i ni gydnabod nad ydym ninnau’n llawn llathen chwaith.

06/06/09

 

Mae hi’n ddiwedd wythnos Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd, ac yn gyfle felly, i adlewyrchu ar yr abrawf hynod hwnnw o ddenu ieuenctid Cymru i’n prifddinas am yr eildro mewn pedair blynedd. Er y bu tipyn o drafod ar hyn ymysg ffyddloniaid yr wyl, dwi’n meddwl, erbyn hyn, fod y penderfyniad wedi hen ennill ei phlwyf, a hynny’n syml am fod y ddinas ei hun wedi datblygu cymaint yn ystod y cyfnod hwnnw, ac wedi datblygu a chryfhau ei hunaniaeth.

Mae sawl un wedi sôn am faint o fraint yw hi i’r cystadleuwyr gael perfformio ar lwyfan enfawr Canolfan y Mileniwm, ac i gael meddiannu ein Senedd am wythnos gyfan. Ond rhaid peidio meddwl mai braint iddyn nhw yn unig yw hyn – gan ei fod hefyd, yn fwy ‘na dim, yn gyfle i atgoffa Caerdydd am fodolaeth gweddill Cymru. Ac yn fwy na hynny – i gynnal digwyddiad yn yr iaith Gymraeg, o fore gwyn tan nos, ar lwyfan sy’n gartref i gynifer o gynyrchiadau di-Gymraeg, ac i atgoffa’r gynulleidfa o gyfoeth diwylliannol yr iaith honno.

O safbwynt y darlledu, hefyd, mae gweld golygfeydd trawiadol o’r balconïau opera wrth i ni wylio’r cystadlu yn wefr arbennig iawn i’r gynulleidfa adre. Yr wythnos hon fe glywais rhywun mewn tafarn yng Nghaerdydd yn datgan yn uchel yn Saesneg fod ei mab newydd fod ar y teledu! Tynnwyd sylw’r dafarn i gyd, a dyna lle fuon nhw, yn syllu’n gegrwth ar y teledu yn y gornel, heb neb yn swnian am droi’r sianel. A dyna ydy gwir lwyddiant yr wyl – y ffaith y gall pawb gael y fraint o fod yn rhan ohoni.

30/05/09

 

Dwi’n teimlo rhyw falchder mawr wrth weld llwyddiannau BAFTA Cymru 2009 yn fflachio ar y sgrin fach bob hyn a hyn. Enillodd S4C 17 o wobrau eleni, a hynny am nifer o gynyrchiadau gwahanol, sy’n profi mor eang yw’r ystod o weithiau a gynhyrchwyd yn y cyfnod ffurfiannol diweddar.

Braf oedd gweld Martha, Jac a Sianco, addasiad ffilm o nofel rymus Caryl Lewis, yn cael sylw haeddiannol am ei chlyfrwch gweledol – gyda’r wobr am y cyfarwyddwr ffotograffiaeth gorau yn mynd i Richard Wyn Huws, y cynllunio gorau yn mynd i Phil Williams a hefyd y colur gorau yn mynd i Stephen Williams.

Roedd hi’n wych hefyd i weld dau actor hynod safonol – Ifan Huw Dafydd a Sharon Morgan - yn cael cydnabyddiaeth wedi gyrfaoedd hir ac amrywiol, ac i weld Con Passionate yn cyrraedd y brig yng Nghymru o’r diwedd.

Ond fyddai hi ddim yn ddigwyddiad Cymreig heb fod rhywun yn cael cam – ac ro’n i’n sicr yn teimlo fod Siwan Jones yn haeddu’r wobr am y sgriptio gorau, a Mari Lovgreen a’i hegni gwyllt a gwirion yn haeddu’r ganmoliaeth am y cyflwyno gorau.

Ond o fewn yr un wythnos lle y cafodd S4C sylw positif dros ben, penderfynodd y papur hwn newid safle S4C yn yr adran deledu ddyddiol. Fe fydd y rhai craff yn eich mysg wedi sylwi mai BBC 1 & 2, ITV a Sianel 4 sydd bellach yn cael eu nodi fel prif sianeli Cymru o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda S4C wedi ei gwthio i waelod y dudalen, islaw Sianel 5. Ai camgymeriad yw hyn? Neu a yw’r sianel yn ‘cael cam’ go iawn y tro hwn?

23/05/09

 

Cafwyd rhaglen ychydig yn fwy swmpus yr wythnos hon yng nghyfres ‘Wynebau Newydd’, sef dogfen pry-ar-y-wal yn dilyn criw o ffrindiau – Bethan Marlow, Laura Jones, Eilir Pierce a Matthew Walter – wrth iddyn nhw dreulio pedair wythnos yn Malawi yn cynnal cwrs ffilm gyda’r bobl leol.

Roedd hon yn ddogfen amrwd iawn ar brydiau - yn dangos eithafion emosiynau o ran y ddau griw, a hefyd yn cymryd y cam dewr o gydnabod anawsterau’r prosiect. Yn hynny o beth, doedd hi ddim wastad yn hawdd ei gwylio, yn enwedig wrth weld gwrthdaro ynghylch perchnogaeth o’r prosiect, ond roedd hynny hefyd yn ategu at gyfoeth y rhaglen - am fod ‘na ddyletswydd ar unrhyw ddogfen dda i greu ychydig o aflonyddwch ymysg ei chynulleidfa, a chodi cwestiynau. Ond wedi dweud hynny, doedd ‘na ddim byd amrwd am y ffordd y cyflwynwyd y deunydd, gyda’r gwaith camera yn dal eiliadau pwysig mewn modd hynod gynnil, heb ymyrryd ar brofiadau’r rhai a oedd yn cymryd rhan. Hefyd, roedd agwedd uniongyrchol, di-flewyn ar dafod tiwtoriaid y cwrs a’u parodrwydd i fod mor onest wrth drafod eu profiadau a’u hamheuon eto yn codi’r ddogfen i lefel uwch.

Yn fwy ‘na hynny, roedd yma strwythur cryf, ac roedd modd mwynhau’r cynhyrchiad fel naratif ynddo’i hun, wrth ddilyn camau pwysig sawl unigolyn. Roedd gweld hyder a phrofiad criw Malawi yn tyfu yn wirioneddol arbennig, ac roedd uchafbwynt y rhaglen – sef dangosiad y ffilm – yn un o funudau mwyaf grymus y ddogfen. Hawdd iawn fyddai sentimentaleiddio’r foment – ond clyfrwch y ddogfen, drwyddi draw, oedd iddi ymatal rhag ildio i’r dehongliad hawdd, ac i adael bylchau pwrpasol, diddorol, yn y stori.

16/05/09

 

Cafwyd trafodaeth ddifyr ar ddwyieithrwydd ar Wynebau Newydd yr wythnos hon, yng nghwmni Dr Enlli Thomas. Ac nid yr un hen ddadl a gafwyd, ychwaith, ond y tro hwn, ymchwil gwyddonol i’r pwnc, gan daflu goleuni newydd dros ein hyblygrwydd ieithyddol ni fel Cymry, wrth edrych ar batrymau meddwl plant dwyieithog yn benodol.

Cafwyd canfyddiadau digon diddorol - sef bod y plentyn dwyieithog, mae’n debyg, â sgiliau ymenyddol craffach na rhai uniaith yn yr hirdymor, a bod ‘na fanteision i bobl ddwyieithog o ran iechyd meddwl, gyda’r ymchwil yn awgrymu fod eu hymennydd wedi hen arfer â mwy nag un dasg, ac wedi dysgu anwybyddu un iaith er mwyn canolbwyntio ar y llall.

A phwy well i’n hatgoffa o glyfrwch cynhenid y person dwyieithog na Rhydian Roberts, a lwyddodd i ddawnsio o gwmpas y ddwy iaith mewn cyngerdd fawreddog yr wythnos hon.

Meddyliwch y sgiliau ymenyddol sydd angen arnoch chi i symud yn slic o ‘Let’s Get This Party Started’ i ‘Pan Fo’r Nos yn Hir’, heb sôn am y gallu i neidio allan o siwt secwins coch i siwt ddu sgleiniog rhwng y ddau. Nid yn unig hynny - ond i siarad Cymraeg gloyw â’r gynulleidfa a cheisio apelio at y gynulleidfa di-Gymraeg, ac i ganu cân a boblogeiddiwyd gan Kate Winslet gyda geiriau newydd gan Tudur Dylan Jones! Heb sôn am gael cyfeiliant gan delynores y Tywysog Siarl wrth ‘freuddwydio am fynyddoedd hen fy ngwlad,’ ac i ganu’n angerddol am Myfanwy a Phantom of the Opera o fewn munudau i’w gilydd...

Anghofiwch am wneud ymchwil ar blant – rheitiach fyddai plygio ymennydd Rhydian Roberts yn syth i mewn i’r system.

09/05/09

 

Wythnos digon bisâr a gafwyd ar S4C yr wythnos hon. Y mae’r rhaglen ‘Wynebau Newydd’ wedi hen sefydlu ei hun fel rhaglen ddogfen ‘amgen’ sy’n cyflwyno i ni'r rheiny sydd â stori ddirdynnol i’w hadrodd. Ond yn achlysurol, mae’r rhaglen anghofio’n llwyr am y nod hwnnw - ac yn penderfynu y gwnaiff unrhyw wyneb y tro.

Yr hyn a gafwyd yr wythnos hon oedd portread o DJ o ardal Bangor, Marek Griffith, sydd bellach wedi ymgartrefu yn Beijing, ag sydd, yn ôl ei gyfaddefiad ef ei hun, yn dweud celwydd ar ei CV er mwyn cael gigs proffil uchel. Nid yn unig hynny, ond mae e’n cydnabod mai ‘Tsieinëeg tacsi’ sydd ganddo - ac fe’i welwyd yn ceisio’i orau i gael sgwrs gyda nifer o bobl yr ardal, ac yn methu. Drwy’r rhaglen gyfan ro’n i’n chwilio am y rheswm pam fod y stori hon yn unigryw. Yn goron am y cyfan, roedden ni’n cael gweld y DJ digyfeiriad hwn yn cael ei glustiau wedi eu glanhau, ac yna fe ddangoswyd i ni weddillion y cwˆyr. Chwaethus tu hwnt.

Digon rhyfedd hefyd oedd Dechrau Canu Dechrau Canmol, sy’n dioddef o drawsnewidiad mympwyol arall. Roedd Luned Emyr fel petai’n edrych lawr arnom o’r entrychion nefolaidd, wrth i gôr dawnus o gantorion ifanc berfformio mewn stiwdio a oedd heb ronyn o naws yn perthyn iddo. Er mwyn parhau a’r gogwydd ‘ifanc’, cafodd un o emynau Ann Griffiths ei ‘phoblogeiddio’ trwy enau Elin Fflur, a chafodd Cowbois Rhos Botwnnog y cyfle i frefu eu fersiwn nhw o ‘Dwy Law yn Erfyn.’ Ac roedd fy nwy law innau’n erfyn hefyd, am resymau gwahanol!

02/05/09

 

Mae’n eithaf nodweddiadol o S4C i gymryd rhywbeth na fedrech chi fyth ei wneud yn wyladwy, rhywbeth a fyddai’n swnio yn ofnadwy ar bapur, a’i droi mewn i un o lwyddiannau mawr y sgrin fach. Dyna sydd wedi digwydd yn achos 04 Wal. Dyna eironi mawr y teitl wrth gwrs, a’r rhyfeddod yw ein bod yn parhau i gael ein synnu a’n rhyfeddu gan ddimensiynau diddiwedd y waliau hynny.

A bob tro dwi’n meddwl nad yw hi’n bosib iddyn nhw wasgu mwy o ddeunydd allan o’r un hen fformiwla, maen nhw’n dod o hyd i ffordd i wneud hynny, a rhywsut, yn llwyddo i gyfiawnhau’r peth. A dwi erioed wedi gwrthwynebu. Efallai bod hynny am fy mod i mewn rhyw lesmair rhyfedd yn gwylio gwaith camera trawiadol Stephen Kingston, gymaint felly fel nad ydw i wedi meddwl cwestiynu’r hyn sydd o ‘mlaen i, am ei fod e mor hardd. Bron fel petawn i wedi fy hudo’n llwyr.

Ond yr hyn sy’n ymddangos ychydig yn abswrd am y gyfres gyfredol, sef 04 Wal: Gwestai’r Byd, yw ei bod hi’n cael ei darlledu yn ystod cyfnod cythryblus y wasgfa ariannol, pan mae’r rhelyw ohonom yn troi cefn ar westai drud ac yn dewis mynd ar wyliau’n nes adre. Nid fod y rhaglen yn ein hannog i ymweld â Marrakech a Barcelona, wrth gwrs, dim ond i fwynhau’r bensaernïaeth, fel ‘tasai hynny gyfystyr â chael gwyliau braf ynddo’i hun. Mae Aled Sam, chwarae teg iddo, yn cymryd gwyliau ar ein rhan, a’r neges yw - does dim ots os ewn ni gyd i’r wal – achos mae ‘na ddigon o waliau eraill wrth gefn...

25/04/09

 

Er ein bod yn dal i straffaglu i ffeindio fformat addas ar gyfer cyflwyno cerddoriaeth ‘boblogaidd’, mae’n amlwg fod ‘na dipyn mwy o ddeallusrwydd a gweledigaeth gennym wrth ymdrin â cherddoriaeth glasurol – fel y profodd amryw o gynyrchiadau safonol yr wythnos hon.

Y cyntaf o’r rhain oedd cynhyrchiad ‘Shân Cothi’, sef cyfres newydd o gerddoriaeth a sgwrs yng nghwmni’r soprano poblogaidd. Er na fydd y sioe yn apelio rhyw lawer at gynulleidfa iau, nac ychwaith yn cymryd lle Con Passionate, mae hi’n sicr yn llwyddo i gau’r bwlch rhwng y rheiny sy’n dibynnu ar Noson Lawen am ddifyrrwch, a’r rheiny sy’n mwynhau cerddoriaeth o bob math. Unwaith eto – yr hyn sy’n gyfrifol am lwyddiant y rhaglen yw personoliaeth hynaws, gynnes y cyflwynydd – sy’n parchu ei gwesteion ac yn gwneud i’r gynulleidfa deimlo eu bod nhwythau’n rhan o’r profiad.

Roedd ‘Papa Haydn’ hefyd yn gynhyrchiad diddorol dros ben, gyda Elin Manahan Thomas yn ein tywys trwy hanes y cyfansoddwr dylanwadol o Awstria, gan ganfod ongl Gymreig i’w waith, ac ymchwilio ymhellach i’r ffaith iddo gyfansoddi trefniannau i gannoedd o alawon Cymreig yn ystod ei yrfa. Unwaith eto, roedd diddordeb cynhenid Elin ei hun yng nghynnwys y ddogfen, yn ogystal â’i dehongliadau disglair o’i waith, yn rhoi sglein arbennig i’r cyfanwaith, ac yn rhoi dyfnder cerddorol i’r ffeithiau. Roedd ôl cynllunio gofalus yma – gyda Elin yn cymryd sedd ôl ar brydiau, er mwyn gadael i ni werthfawrogi dehongliadau offerynnol gwych yr Haydn Trio Eisenstadt.

Roedd edrychiad y rhaglen hefyd yn drawiadol, gyda’r cynhyrchu a’r cyfarwyddo yn sicrhau fod yma rhaglen a oedd, er yn Gymreig, ag iddi ymdeimlad ac apêl Ewropeaidd.

18/04/09

 

Er fy mhryder am ymgais y cyfryngau i ‘Eingl-Americaneiddio’ Côr Cymru, mae’n rhaid dweud fod y rownd derfynol hynod safonol ar nos Sul wedi llwyddo i dawelu fy amheuon. Roedd hyd yn oed y ‘Copacobana’ yn swnio fel ‘tae’n glasur Cymreig (yn fwriadol ai peidio!) ac roedd pob un o’r corau wedi llwyddo i gynnig rhaglen a oedd hefyd yn rhyngwladol ei rhychwant.

Ond o ran gosod naws a chreu rhaglen wirioneddol adloniannol, Heledd Cynwal sy’n haeddu’r clod yn bennaf – gan iddi lywio’r cyfan mewn ffordd mor agos-atoch fel ei bod bron ar y soffa gyda chi. Gresyn na fyddai pob cyflwynydd yng Nghymru yn llwyddo i gyfuno’r un graddfeydd hyfryd o broffesiynoldeb pur a phersonoliaeth afieithus. Ymhlith y sylwadau cofiadwy a wnaed ganddi oedd dweud wrth yr arweinydd buddugol, Sioned James, “O’dd isie neud gymaint o jibs fan ‘na?” a dweud wrth Islwyn Evans, arweinydd y côr buddugol – “Gynta’i gyd – ‘llai gael cwtsh?” Nid yn unig hynny, ond fe wnaeth hi lwyddo i ffrwyno hysteria’r Neuadd Fawr gydag un ystum slic, a chadw’r gybolfa at ei gilydd tan yr eiliad olaf un – tipyn o gamp ar raglen fyw.

Ac er mwyn parhau â fy ffics gelfyddydol, braf oedd gweld y Sioe Gelf yn ôl o’r diwedd, lond ei chroen o gynnyrch creadigol newydd. Cafwyd rhaglen safonol yn cynnwys eitemau mor amrywiol ag Amrywiadau Goldberg Catrin Finch, ffilm ddiweddar Meic Povey am Ryan a Ronnie, nofel arloesol William Owen Roberts, Petrograd, a hefyd gwaith aml-ochrog yr artist Menna Angharad. Yn wir, roedd hi’n rhaglen mor apelgar nes gwneud i mi gwestiynu sut y bu modd i mi fyw hebddi...

11/04/09

 

Aed â ni i fyd o liw yr wythnos hon, yng nghwmni un o gymeriadau mwyaf lliwgar y celfyddydau, Osi Rhys Osmond. Roedd hon yn rhaglen soffistigedig, gwahanol iawn i’r arfer, gyda phob elfen ohoni – o’r graffeg i’r gwaith camera – yn creu ymdeimlad rhyngwladol, gyda’r bwriad, am wn i, o fedru gwerthu’r rhaglen i wledydd ar draws y byd.

A pham lai? Mae apêl y gyfres hon yn eang dros ben – nid yn unig y mae hi’n cyffwrdd â dychymyg y rheiny sydd â diddordeb mewn lliwiau o safbwynt artistig, ond hefyd y rheiny sydd yn mwynhau ymchwilio i seicoleg ac athroniaeth lliwiau. Mae ‘na hefyd ddeunydd hanesyddol a gwyddonol diddorol ynghlwm â’r rhaglen, gydag ymchwil arloesol yn cael ei ddefnyddio i geisio esbonio a dadansoddi perthynas yr unigolyn gyda lliwiau.

O’r cychwyn cyntaf, felly, cafwyd rhaglen a oedd yn fwy angerddol, rhywsut, na’r dogfennau taith arferol sy’n britho’r sianel, a hynny gan fod Osi yn gwneud i ni deimlo ei fod yntau – a ninnau – ar gwest, a fod yn rhaid ei ddilyn i’r pen. Ro’n i wedi fy nghyfareddu gan ganfyddiadau bychain – fel dimensiwn lliw deublyg y mamaliaid, neu’r ffaith fod babanod yn dysgu ‘iaith lliw’ wrth fynd yn hyˆn. Yn sicr fe wnaeth y rhaglen hon bwysleisio’r ffaith fod lle i ragor o raglenni heriol, athronyddol eu naws ar ein sianel.

Mae’n amlwg, hefyd, fod gennym ddigon o arbenigwyr craff i gyfrannu at y drafodaeth, a digon o artistiaid diddorol i ddehongli’r canfyddiadau, ac roedd hi’n braf gweld ambell sylwebydd newydd yn dod i’r amlwg fan hyn, a’u cyfraniad yn ategu lliw arall at ein sbectrwm arbennig ni.

04/04/09