Hafan: Croeso i wefan Fflur Dafydd – yr awdur a’r gantores o Gaerfyrddin.

6 ENWEBIAD BAFTA I GYFRES A FFILM FFLUR

03/09/2017

Yr wythnos hon fe gyhoeddwyd enwebiadau BAFTA Cymru, ac mae ffilm Fflur, Y Llyfrgell, a’i chyfres deledu, Parch, wedi derbyn cyfanswm o 6 o enwebiadau, gan gynnwys yr enwebiad am awdur gorau ar gyfer Y Llyfrgell, a’r enwebiad am Gyfres Ddrama Orau ar gyfer Parch.

Bydd y 26ain seremoni’n cael ei chynnal ar 8 Hydref 2017 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ac fe’i harweinir gan Huw Stephens am y drydedd flwyddyn. Bydd y seremoni’n cynnwys perfformiadau gan westeion arbennig a chyflwynwyr gwobrau enwog sy’n cynrychioli’r gorau o ddiwydiannau creadigol a chyfryngau’r Deyrnas Unedig. Eleni, mae 55 cynhyrchiad, sef y nifer fwyaf erioed, yn cael cydnabyddiaeth trwy enwebiadau ar draws yr holl gategorïau cynhyrchu, perfformio, crefft a gemau.

 

 

 

Y LLYFRGELL wedi’i henwebu am ddwy wobr yn y “Sundance Ewropeaidd.”

12/09/2016

Yn dilyn dangosiadau llwyddiannus tu hwnt yng Ngŵyl Ffilm Rhyngwladol Caeredin, lle cafodd ei henwebu am ddwy wobr, ac ennill gwobr am y ‘Perfformiad Gorau mewn Ffilm Brydeinig’, mae ffilm gyntaf Euros Lyn a Fflur Dafydd ‘Y Llyfrgell’ bellach ar fin cael premiere rhyngwladol yng Ngŵyl Ffilm Rhyngwladol Oldenburg yn yr Almaen.

Mae Gŵyl Ffilm Oldenburg yn cael ei hystyried fel y “Sundance Ewropeaidd”, ac wedi cael ei nodi yn un o wyliau ffilm gorau’r byd i ffilmiau annibynnol. ‘Y Llyfrgell’ yw’r ffilm Gymraeg gyntaf erioed i gael ei dangos yno, ac mae’r ffilm eisioes wedi cael ei henwebu am ddwy wobr, sef gwobr y Ffilm Orau, a gwobr arbennig Seymour Cassel Award am y perfformiad gorau i Catrin Stewart. Fe fydd Euros Lyn yn ymweld â’r ŵyl i gyflwyno’r ffilm, a Catrin Stewart hefyd yn hedfan allan ar gyfer y noson wobrywo ar nos Sul.

Mae’r ffilm, sydd wedi ei haddasu gan Fflur Dafydd o’i nofel boblogaidd, ac wedi’i chyfarwyddo gan Euros Lyn, yn olrhain hanes yr efeilliaid Ana a Nan (gyda Catrin Stewart yn chwarae’r ddwy), sy’n mynd ati i ddial ar y dyn sy’n gyfrifol am farwolaeth eu mam, a hynny yn ystod un noson gyffrous yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywed Euros Lyn: “Mae’n wych o beth i weld Y Llyfrgell yn cael ei henwebu mewn gwyl ffilm fawr fel hon, a gweld Catrin Stewart yn parhau i gael cydnabyddiaeth am ei pherfformiad dwbl gwefreiddiol. Ein nod wrth greu’r ffilm oedd i fynd â stori gyfangwbl Gymreig a Chymraeg at y byd, ac mae’n braf ein bod yn gallu gwireddu’r nod hwn trwy ddechrau ar ein taith rhyngwladol.”

Fe fydd y daith rhyngwladol yn parhau y penwythnos canlynol, gyda’r ffilm hefyd yn cael ei sgrinio fel rhan o dymor Prydeinig a Gwyddelig yr ŵyl ffilm yn Luxembourg. Mae’r ffilm hefyd yn parhau i gael ei sgrinio yng Nghymru, gyda dangosiad arbennig yn digwydd y nos Wener yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dan ofal BAFTA Cymru, lle fydd yr awdur Fflur Dafydd yn ymddangos mewn sesiwn holi ag ateb yn yr union leoliad a ysbrydolodd y ffilm.

Am fwy o wybodaeth am y dangosiadau yng Nghymru ewch yma: www.facebook.com/yllyfrgell/

 

 

 

Ffilmio i gychwyn ar nofel boblogaidd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

14/09/2015


Catrin Stewart

Wrth i ail gyfres o’r Gwyll gyrraedd ein sgriniau mae Ceredigion yn paratoi unwaith eto i fod yn gefnlen ar gyfer ffilm newydd sbon, wedi ei seilio ar gynnyrch buddugol Gwobr Goffa Daniel Owen ac wedi ei gosod yn un o leoliadau mwyaf adnabyddus Cymru.

Mae Y Llyfrgell, ffilm fawr gyntaf y cyfarwyddwr nodedig Euros Lyn, yn seiliedig ar nofel arbennig a phoblogaidd Fflur Dafydd o’r un enw. Dyma ddrama gyffrous wedi ei gosod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru gyda Ryland Teifi (35 Diwrnod, Tir) Catrin Stewart (Stella, Doctor Who), Dyfan Dwyfor (Pride, Y Gwyll/Hinterland) a Sharon Morgan (Resistance, Torchwood) ymysg ei sêr. Yn y ffilm cyflwynir rhai o’r cyfrinachau a’r celwyddau sydd wrth galon stori dda, gan ofyn pwy mewn gwirionedd sydd â’r hawl i ddweud yr hanes.

Hon yw’r drydedd ffilm i gael ei chynhyrchu gan Cinematic, cynllun talent newydd Ffilm Cymru Wales. Dyfeisiwyd a datblygwyd Cinematic mewn partneriaeth â’r BFI Film Fund, BBC Films, Creative Skillset, Edicis, a Soda Pictures ac S4C. Mae’r cynllun hwn yn cefnogi talent creu ffilmiau newydd yng Nghymru, gyda’r bwriad o greu cynhyrchiadau cyfoes, deinamig ac arloesol a dyma’r cyntaf i gael ei ffilmio yn yr iaith Gymraeg. Soda Pictures sydd â’r hawliau dosbarthu yn y DG ac Iwerddon, ac S4C a fydd yn gyfrifol am ddarlledu rywdro yn y dyfodol.

Wedi i’r awdures enwog, Elena Wdig (Sharon Morgan), ladd ei hunan, mae ei dwy ferch, Nan ac Ana (Catrin Stewart), y ddwy yn efeilliaid ac yn llyfrgellwyr, yn naturiol yn teimlo ar goll hebddi. Mae geiriau olaf Elena’n awgrymu mai ei chofiannydd, Eben (Ryland Teifi) a’i lladdodd. Felly, yn ystod rhyw sifft waith gyda’r nos, mae’r efeilliaid yn cychwyn ar ymchwiliad i’r llofruddiaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn dial am farwolaeth eu mam, ond pwy ddaw ar eu traws ond Dan, y porthor nos (Dyfan Dwyfor), a chaiff yntau ei lusgo i mewn i’r saga.

Mae’r cyfarwyddwr Euros Lyn yn edrych ymaen yn eiddgar at gychwyn ar ei ffilm gyntaf, “Fel ffan arbennig o’r genre hwn, rwy’n hynod gyffrous o gael creu ‘thriller’ yn y Gymraeg, a pha le gwell ar gyfer hyn na Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’i naws atmosfferig a’i lleoliad uwchben tref Aberystwyth? Mae gan Gymru bellach liaws o awduron, actorion a chynhyrchwyr o’r radd flaenaf, ac edrychaf ymlaen yn fawr at gael cydweithio gyda chymaint ohonynt ar y ffilm.”.

Gwnaeth Euros Lyn enw iddo’i hun fel cyfarwyddwr nifer o raglenni Cymraeg poblogaidd megis Pam Fi Duw, Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw, Gwyfyn yn ogystal â Belonging. Cyfarwyddodd hefyd sawl pennod o Doctor Who gan gynnwys The Girl In The Fireplace (a enillodd wobr Hugo), a Torchwood: Children Of Earth; mae hefyd wedi gweithio ar Sherlock, Last Tango In Halifax, Broadchurch, Black Mirror, Happy Valley a Daredevil, sydd rhyngddynt wedi ennill pum gwobr BAFTA am Gyfresi Drama Gorau, tair gwobr BAFTA am y Cyfarwyddwr Gorau, ac Emmy Rhyngwladol.

Mae Fflur Dafydd yn gynhyrchydd, yn gantores, ac yn awdur nofelau a rhaglenni teledu, ac eisoes wedi ennill nifer o wobrau am ei gwaith, gan gynnwys Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2009 am Y Llyfrgell,

“Fel ffilm y dychmygais y syniad hwn yn wreiddiol, ond ysgrifennu llyfr a wnes i yn y pen draw. Mae gweld y cymeriadau yma’n dod yn fyw ar y sgrîn fawr yn dod â’r freuddwyd yn fyw, a theimlaf yn ffodus iawn o gael cydweithio gyda chyfarwyddwr hynod dalentog a chast rhagorol, a gweld pawb yn cyfrannu eu gweledigaeth unigryw eu hunain i’r prosiect.”

Mae’n awdur pum nofel ac un casgliad o storïau byrion, ac enillodd wobr yr Oxfam Hay Emerging Writer yng Ngŵyl y Gelli yn 2009 am ei nofel Twenty Thousand Saints. Yn ogystal ag addasu Y Llyfrgell ar gyfer y sgrîn, bydd Fflur hefyd yn cyd-gynhyrchu’r ffilm gydag Euros Lyn.

Tra bod gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru broffil cenedlaethol a rhyngwladol o bwys dyma’r tro cyntaf iddi agor ei drysau i brosiect o'r fath, fel yr eglura Avril E. Jones, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell,

"Mae natur ein gwaith a phroffil yr adeilad ei hun yn golygu bod gennym lawer o gynhyrchwyr rhaglenni yn dod yma i recordio, ond dyma'r tro cyntaf i ffilm gael ei gosod yma. Mae pensaernïaeth yr adeilad yn naturiol yn cyfleu naws o ddirgelwch ar gyfer prosiect o'r fath ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y ffilm orffenedig. "

 

 

 

‘Y LABORDY’ A CHYFRES DDRAMA GYNTAF FFLUR

20/09/2014

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru enwau’r 4 awdur sydd wedi eu dewis i fod yn rhan o gynllun arloesol ‘Y Labordy’ – sef Fflur Dafydd, Bethan Marlow, Jon Gower a Dafydd James. Bydd y fenter, sydd yn dechrau gyda chwrs preswyl yn Nhy Newydd yng Ngwynedd yr wythnos hon, yn rhoi cyfle unigryw i bedwar awdur profiadol a thalentog ddatblygu eu syniadau ochr yn ochr â rhai o sgriptwyr a chynhyrchwyr uchaf eu parch yn y diwydiant.

Fflur Dafydd gyda Jon Gower, Dafydd James, Bethan Marlow

Lisa Albert, ysgrifennydd a chynhyrchydd y ddrama gyfnod Americanaidd Mad Men, a Jeppe Gjervig Gram, ysgrifennwr a chyd-greawdwr y gyfres ddrama wleidyddol Daneg Borgen, yw dau o'r enwau mawr fydd yn cyfrannu at y fenter gyffrous hon. Fe fydd y 4 awdur yn gweithio gyda Lisa a Jeppe yn ogystal â’r cyfarwyddwr ffilm a scriptiwr sgrin o Gymru, Kieran Evans (Kelly + Victor), y golygydd sgriptiau a’r cynhyrchydd Angeli MacFarlane (Very Annie Mary), y dramodydd profiadol Sarah Dickenson a threfnydd y London Screenwriters' Festival Lucy V Hay fel rhan gyntaf o fenter Y Labordy.

Nod Y Labordy dros y flwyddyn nesaf yw cefnogi a meithrin talent y pedwar awdur sydd wedi eu dewis, gan ddarparu’r sgiliau a’r gwybodaeth angenrheidiol iddynt gynnig syniadau i amrywiaeth o gomisiynwyr rhyngwladol o’r diwydiant. Ariennir y fenter gan Creative Skillset Cymru, S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru a Ffilm Cymru Wales drwy eu rhaglen BFI NET.WORK. Gweinyddir y cynllun gan Llenyddiaeth Cymru.

Yn ogystal â hyn, mae Fflur newydd dderbyn comisiwn gan S4C i ysgrifennu ei chyfres ddrama gyntaf. Mae’r ddrama, sy’n dwyn y teitl Parch., yn dilyn hynt a helynt ficer benywaidd yn ystod adeg helbulus yn ei bywyd, ac yn ddrama sydd yn cyfuno elfennau o realaeth ac abswrdiaeth, yn nhraddodiad dramâu fel Con Passionate a Fondue, Rhyw a Deinasors. Fe fydd y ddrama yn cael ei chynhyrchu gan gwmni Apollo.

 

 

 

FFLUR DAFYDD AC EUROS LYN I GYDWEITHIO AR FERSIWN FFILM “Y LLYFRGELL”

Fel rhan o gynllun ‘Sinematig, sy’n cael ei rhedeg gan Asiantaeth Ffilm Cymru, fe fydd ffilm o nofel arobryn Fflur Dafydd, Y LLYFRGELL – yn mynd i gynhyrchiad yn gynnar yn 2015, ac yn cael ei chyfarwyddo gan Euros Lyn (Broadchurch, Doctor Who & Last Tango in Halifax), a’i sgriptio gan y nofelydd ei hun. Mae hon yn stori ddialgar wyrdroedig ble mae dwy efaill yn gosod trap yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddal llofrudd eu mam, gydag arddull y gellid ei gymharu gyda ffilmiau’r Coen Brothers neu gomedïau du Pedro Almodovar.

Nod Sinematig yw rhoi sylw i wneuthurwyr ffilm o Gymru, ac fe fydd Sinematig hefyd yn annog i’r cyfranogwyr ganolbwyntio ar y farchnad yn ystod camau cyntaf eu prosiectau, gan elwa ar arbenigedd Soda Pictures yn y maes dosbarthu, yn ogystal ag archwilio’r cyfleoedd ehangach sy’n bodoli yn rhyngwladol. Bu i Asiantaeth Ffilm Cymru ddyfeisio a datblygu Sinematig mewn parterniaeth â Chronfa Ffilm y BFI, BBC Films, S4C, Soda Pictures a Creative Skillset er mwyn cefnogi’r dalent sy’n dod i’r amlwg yn y byd gwneud ffilmiau yng Nghymru sy’n awyddus i gynhyrchu ffilmiau nodwedd cyfoes, deinamig a nodedig. Fe dderbyniwyd dros 60 o geisiadau ar gyfer y cynllun, gyda dim ond 3 yn derbyn cyllid – sef ffilm Fflur Dafydd a Euros Lyn, a ffilmiau gan yr actor Craig Robers a’r cyfarwyddwr Chris Crow.

Fe fydd y ffilm yn cael ei dangos mewn sinemau yn 2015 ac fe fydd hi’n ymddangos ar y sgrin fach yn 2016.

Fe fu Euros Lyn a Fflur Dafydd yn gweithio ar y cynllun yma am flwyddyn gron, gan ddatblygu’r sgript a’u strategaeth ar gyfer marchnata’r ffilm, gan gyrraedd rhestr fer yr Asiantaeth ym mis Medi 2013, ac yna mynd ymlaen i wneud eu cais terfynol o flaen y panel yn gynnar ym mis Ionawr eleni. Cynhaliwyd darlleniad o’r sgript o flaen cynulleidfa fechan ym mis Tachwedd 2013, er mwyn rhoi cyfle iddynt rhoi eu barn ar y cynnwys. Yn ôl Fflur Dafydd – “roedd hyn yn gyfle gwirioneddol werthfawr i gael ymatebion cynnar i’r gwaith, i weld a oedd hi’n taro tant gyda’r gynulleidfa, ac i wneud i ni weithio’n galetach i sicrhau nad oedd unrhyw olygfa ynddi yn wastraffus.”

Meddai Steve Jenkins o BBC Films: “Mae’r prosiectau rydym wedi eu dewis yn gyffrous o amrywiol o ran genre ac uchelgais, o ffilm gomedi dywyll i bobl ifanc i ffilm arswyd gyfnod, ond mae pob un yn arbennig o berthnasol i Gymru o ran lleoliad y straeon, ac wrth gwrs, o ran talent. Dyma gyfuniad rhagorol.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru, Pauline Burt: “Mae talent gwirioneddol yn perthyn i bob un o’r prosiectau, felly mae’n gyffrous medru rhoi cynfas ehangach iddynt gael datblygu eu harddull a’u ffordd o weithio.”

Meddai Ben Roberts, Cyfarwyddwr Cronfa Ffilm y BFI: “Cawsom ein plesio’n fawr gan amrywiaeth, ansawdd a gwreiddioldeb yr holl geisiadau, ond ‘roeddem o’r farn y byddai’r tri gwneuthurwr ffilm yma, a’u prosiectau, yn cael mantais gwirioneddol yn sgil y cyfleoedd gwerthfawr a gynigir gan Sinematig sy’n canolbwyntio ar y farchnad ”

Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C: "Mae cyhoeddi’r prosiectau cyffrous yma’n dangos manteision diriaethol Sinematig yn gwbl glir - dyma unigolion gwirioneddol dalentog sy’n cael cyfle i ddatblygu eu syniadau unigryw. Mae Y Llyfrgell, er enghraifft, yn dangos cymaint o syniadau creadigol gwych a gwreiddiol sy’n bodoli, a ‘rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld sut fydd y prosiect yn datblygu a sut fydd o’n edrych ar y sgrîn fawr. ‘Rwy’n siwr y bydd y diwydiant ffilm yng Nghymru yn elwa’n fawr iawn yn sgil cynllun mor gyffrous a chynhyrchiol."

Fe fydd y ffilm yn cael ei chyd-gynhyrchu gan Euros Lyn a Fflur Dafydd ac fe fydd y castio yn digwydd yn ystod misoedd yr haf, gyda’r cast terfynol yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Sir Gâr ym mis Awst eleni. Fe fydd Fflur ac Euros hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb yng Ngŵyl Dinefwr eleni, yn dilyn darlleniad o’r sgript gan actorion proffesiynol.


Am fwy o wybodaeth dilynwch @YLlyfrgell ar Twitter neu’r dudalen Facebook – Y Llyfrgell.

Euros Lyn

 


Erthygl: Golwg
(cliciwch uchod i'w weld yn fwy)

 

 

FFLUR YN GYMRAWD I’R GELLI

Fflur Dafydd yw Cymrawd Rhyngwladol newydd Gwyl y Gelli eleni. Mae hwn yn cynllun ar y cyd rhwng Gwyl y Gelli a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru sy’n caniatau i awduron Cymraeg a Chymreig i hyrwyddo eu gwaith llenyddol dramor, ac i gyfarfod â chyfieithwyr a chyhoeddwyr o fewn y sîn rhyngwladol. A hithau eisioes wedi ymweld â gwyliau yn Sbaen, Norwy, a Mexico – fe fydd Fflur yn teithio eleni i wyliau yn Hwngari, Colombia ac Iwerddon.

Dyma flogiau Fflur hyd yma o’i chyfnod fel cymrawd:

» THE SILK FESTIVAL IN NORWAY BY FFLUR DAFYDD


»
FFLUR DAFYDD AT HAY FESTIVAL XALAPA, MEXICO


» FFLUR DAFYDD AT HAY FESTIVAL SEGOVIA

 

 

 


(cliciwch uchod i weld y pdf)

Tu ôl i Len y Llyfrgell Genedlaethol
gyda Fflur Dafydd

Dydd Gwener 13 Gorffennaf, 1.30 - 3.30pm

* Sylwer bod dyddiad y daith wedi newid o 19 Hydref i 13 Gorffennaf *
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3BU
Pris Tocyn: £4 (trwy gysylltu â Llenyddiaeth Cymru)

Dyma gyfle i weld tu ôl i len y llyfrgell - y celloedd cadw, y stacs, y gor-uwch ystafell fonitro ble mae'r porthorion yn cadw llygad ar bawb, a hynny yng nghwmni neb llai nac awdur Y Llyfrgell (Y Lolfa, 2009) Dr Fflur Dafydd. Gyda sgyrsiau a darlleniadau dyma gyfle i gael cip ar gorneli dirgel yr adeilad hynod hwn, yn ogystal â chip ar y corneli dirgel yn nychymyg yr awdur.

Lle i nifer cyfyngedig sydd ar y daith hon felly archebwch heddiw trwy gysylltu â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org.

Trefnwyd y daith hon mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


Manylion pellach:

Taith gerdded hawdd (oddeutu 1 milltir)
Dim cwn
Maes Parcio talu ac arddangos yn y man cychwyn / gorffen
Addas i unrhyw un dros 12 oed

 

 

 

(cliciwch ar y poster uchod i'w weld yn fwy)

Albym Newydd Fflur: Ffydd Gobaith Cariad

LABEL: RASAL
DYDDIAD RHYDDHAU: 04/06/2012

Yn dilyn ei llwyddiant yn 2010, pan gipiodd deitl Artist Benywaidd y Flwyddyn yng ngwobrau RAP Radio Cymru, mae Fflur Dafydd yn ôl, gyda albym o fath gwahanol iawn. Mae “Ffydd Gobaith Cariad,” yn gasgliad o ganeuon myfyriol, hardd, a thelynegol, sy’n debycach i albym gyntaf y gantores na’r caneuon pop a gawsom ganddi dros y blynyddoedd diwethaf. Thema’r albym ydy pobl – ac mae’r gantores yn ei ddisgrifio fel math o “goeden deuluol ar gân” sy’n ein cyflwyno i gymeriadau lliwgar a dylanwadol ei bywyd.

“Ers bron i ddegawd bellach dwi wedi bod yn ‘sgwennu caneuon er cof am bobol pwysig yn fy mywyd, ac i gofnodi achlysuron penodol, ond dydyn nhw ddim wedi ffeindio eu lle ar albym tan nawr,” esbonia Fflur. “Ond erbyn hyn, gan eu bod wedi cael eu perfformio gymaint, mae’r caneuon yma wedi cael amser i aeddfedu ac esblygu, ac mae’n teimlo fel yr amser iawn i’w rhyddhau nhw i’r byd, gan eu bod yn perthyn i’w gilydd rhywsut.”

Ymhlith y cymeriadau sy’n cael sylw ar yr albym y mae aelodau o deulu Fflur – o’i merch Beca i’w thad-cu a’i mam-gu, Elfyn a Rachel Myra. Ond mae ‘na hefyd ganeuon am bobl yr ydym oll yn eu hadnabod, megis y cawr o Fynydd y Garreg, Ray Gravell, a fu’n ddylanwad mawr ar Fflur. Rydym hefyd yn dod i adnabod ambell i arwres goll fel Martha Llwyd, emynyddes a bardd gwlad a oedd yn cael ei hadnabod fel ‘Ann Griffiths Sir Gâr’, ac yn cael ein hatgoffa o ambell gymeriad ffuglennol fel Frank a Moira, yn fersiwn acwstig trawiadol Fflur o gân dorcalonnus Huw Chiswell. Mae hi hefyd yn canu deuawd am y tro cyntaf – a hynny gyda’r canwr-gyfansoddwr Gildas.

Er ei bod yn disgwyl ei hail blentyn ym mis Medi, fe fydd Fflur yn parhau i gigio dros yr Haf yn hyrwyddo’r albym newydd mewn cyfres o gigs cyffrous ar hyd a lled Cymru. Pinacl y daith fydd cefnogi Cerys Matthews yng Ngwyl y Gelli, ac fe fydd hi hefyd yn hyrwyddo ei nofel ddiweddaraf, The White Trail yno, yn ogystal â chynnal sesiwn ar fod yn artist dwyieithiog yng Nghymru. Am y tro cyntaf mae Fflur hefyd wedi darparu cyfeithiadau o bob un o’r caneuon yn llyfryn yr albym, fel bod modd i gynulleidfa di-Gymraeg ddilyn y caneuon wrth iddynt wrando.

Rhestr Traciau:
1) Rhoces 2) Ffydd Gobaith Cariad 3) Ray o’r Mynydd 4) Y ferch sy’n licio’r gaeaf
5) Martha Llwyd 6) Frank a Moira 7) Y Porffor Hwn 8) Brawd Bach 9) Elfyn
10) Rachel Myra.

 

GIGS:

Mehefin: 5ed – 8fed Gwyl y Gelli, Y Gelli Gandryll / 16eg Gwyl Cricieth
23ain Gwyl yr Hen Dre, Caerfyrddin / 27ain Gwyl Casgwent / 29ain GwdiHw, Caerdydd

Gorffennaf: 7fed Theatr Soar, Merthyr Tudful / 14eg Gwyl Hanner Cant

Awst: 8fed Eisteddfod Genedlaethol.

 

 

 

DATGANIAD I'R WASG: 25/11/09


Fflur yn troi at y Stori Fer a dechrau
‘Stori Newydd Sbon’

Ar ôl blynyddoedd llwyddiannus yn ennill gwobrau ym myd y nofel ac fel cantores, mae’r amryddawn Fflur Dafydd wedi troi nôl i sgwennu storïau byrion, ac mae casgliad newydd ohonynt yn cael eu cyhoeddi ar 25 Tachwedd gan wasg Y Lolfa.

Mae Fflur yn disgrifio’r stori fer fel ei “chariad cyntaf” – enillodd wobr am stori fer yn Eisteddfod Genedlaethol 2004 a chynrychiolodd Cymru yng Ngwˆyl y Stori Fer yn Croatia. Meddai Fflur:“Ar ôl pedair blynedd o weithio ar nofelau, roedd hi’n braf iawn dychwelyd at fy nghariad cyntaf, sef y stori fer. Mae hi’n ffurf sy’n llawn posibiliadau, ac yn rhoi rhyddid i awdur i arbrofi gyda thechnegau a lleisiau gwahanol, gan ddefnyddio abswrdiaeth a dychan, a chreu sefyllfaoedd mwy anarferol na fyddech chi’n ei ffeindio mewn nofel, a herio’r darllenydd ychydig yn fwy”

Yn y blynyddoedd diwethaf cyhoeddodd sawl nofel, yn cynnwys Y Llyfrgell, a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2009, ac mae nifer o elfennau tebyg i’r nofel honno i’w gweld yn storiau Awr y Locustiaid.

Enillodd Fflur hefyd wobr fel artist benywaidd y flwyddyn yng Ngwobrau RAP 2010 a chyhoeddodd albwm newydd o’r enw Byd Bach. Meddai Fflur: “Mewn ffordd, mae’r broses o roi cyfrol o straeon at ei gilydd yn debyg iawn i greu albwm – mae’n rhaid i bob stori daro nodyn gwahanol, ond mae’n rhaid iddyn nhw deimlo fel eu bod yn perthyn i’w gilydd rhywsut hefyd, ac mae ambell stori yn cyd-fynd gyda rhai o fy nghaneuon, fel y stori am Helsinki, sy’n rhyw fath o fersiwn llenyddol o’r gân.”

Dywedodd Mihangel Morgan fod delweddau Fflur yn y gyfrol “yn gafael yn y darllenydd ac yn ei gofleidio tan y diwedd.” Mae’r storïau yn adlewyrchu profiadau’r awdur o Gymru a thu hwnt, ambell stori wedi’i lleoli dramor, yn cynnwys Helsinki lle y bu’n awdur preswyl, a Merano lle y bu’n cynnal darlleniadau, ond y cyfan wedi ei hysgrifennu’n gaboledig gan y llenor sydd, wrth ysgrifennu’r gyfrol, wedi rhoi genedigaeth i “stori newydd sbon” sef ei merch, Beca a anwyd ym mis Medi. Cyflwynir y gyfrol Awr y Locustiaid i Beca Elfyn.

Bydd Awr y Locustiaid yn cael ei lansio nos Iau 25 Tachwedd yn Siop y Pentan, Caerfyrddin am 7.00


» Adolygiad 'Awr y Locustiaid': Meg Elis, BBC Cymru

» Adolygiad 'Awr y Locustiaid': Lyn Ebenezer, Gwales

 

 

NEWYDDION DIWEDDARAF: Ebrill 2010


FFLUR DAFYDD YN CIPIO GWOBR MAX BOYCE & GWOBR RAP RADIO CYMRU

Mewn noson arbennig yn llyfrgell Glyn-nedd yn ddiweddar, cyhoeddwyd mai enillwyr cyntaf gwobr Max Boyce oedd yr awduron ifanc Fflur Dafydd a Rachel Trezise, am y nofelau Y Llyfrgell (Y Lolfa, 2009) a Dial M for Merthyr (Parthian, 2007). Cyflwynwyd y wobr iddynt fel rhan o brosiect Darllen Difyr 2010 sy’n cael ei noddi gan Gyngor Llyfrau Cymru, ac sy’n cael ei ddewis gan y darllenwyr o blith rhestr fer o gyhoeddiadau gorau’r ddeng mlynedd ddiwethaf. Dyma’r ail wobr i Fflur ei derbyn am y nofel hon, gan iddi hefyd gipio Gwobr Goffa Daniel Owen 2009 yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

“Mae’n fraint i dderbyn gwobr sydd wedi ei ddewis gan ddarllenwyr Cymru,” medd Fflur, sy’n ddarlithydd yn yr Adran Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe. “Dros y ddwy flynedd diwethaf, dwi wedi teithio o gwmpas pob math o gymunedau darllen yng Nghymru, ac yn aml, dwi’n ffeindio mai y darllenydd cyffredin sydd yn ymateb yn fwyaf craff a gonest i’r gwaith, felly mae cael sêl eu bendith nhw yn golygu cryn dipyn.”

Pythefnos yn ddiweddarach, cyhoeddwyd mai Fflur oedd enillydd categori Artist Benywaidd y Flwyddyn yng Ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru 2010. Cafodd ei halbwm, Byd Bach, a gyrhaeddodd rhif un yn siart c2, hefyd enwebiad am yr albym gorau, a cafodd cynhyrchydd yr albym, Tim Hamill, enwebiad teilwng am y cynhyrchydd gorau.

“Dwi’n hynod falch i dderbyn cydnabyddiaeth am yr albym yma – dwi’n ffodus iawn i weithio gyda tim gwych o gerddorion, a cynhyrchydd safonol dros ben, ac mae’n braf fod y gwaith caled dros y 6 mlynedd diwethaf o gigio a chyfansoddi wedi talu ffordd. Dwi isie diolch i Radio Cymru am eu cefnogaeth parhaol ac i’r cynulleidfaoedd gwych ledled Cymru sydd wedi rhoi cymaint o fwynhad i ni ar hyd y blynyddoedd.”

 

 

 

(cliciwch ar y poster uchod i'w weld yn fwy)

 

Albym newydd Fflur Dafydd a'r Barf i'w rhyddhau ar Dachwedd 16eg


Gig Lansio Albym Newydd Fflur Dafydd a'r Barf:

Cyfle unigryw i glywed caneuon newydd yr albym cysyniadol "Byd Bach", sy'n cynnwys caneuon am wahanol lefydd yng Nghymru - gan gynnwys Aberaeron, Porthgain, Caerdydd, Penrhiwllan, a'r A47dim.

• Clwb Rygbi'r Quins
• Nos Wener 13eg o Dachwedd 2009
• 9.00yh
• Mynediad: £5 ar y drws - elw'r noson yn mynd at Blaid Cymru.

 

Gigs:
• Tachwedd 13 - Clwb y Cwins Caerfyrddin, Lansiad yr albym
• Tachwedd 20 - Duke of Clarence, Caerdydd
• Tachwedd 21 - Clwb Golff Caerfyrddin

 

(cliciwch yma ar gyfer Datganiad i'r Wasg - Byd Bach)

 

DATGANIAD I'R WASG: 03/09/09


Nofelau Fflur yn Cyrraedd y Brig

Bu cymaint o alw am gyfrol fuddugol Fflur Dafydd ers yr Eisteddfod Genedlaethol fel y bu rhaid adargraffu'r gyfrol o fewn mis i'w chyhoeddi. Enillodd Fflur Dafydd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Y Llyfrgell yn Eisteddfod Y Bala, a bu'r ymateb yn hynod frwd gan adolygwyr a phrynwyr fel ei gilydd. Disgrifiwyd y nofel gan Dafydd Morgan Lewis fel “un o'r nofelau gorau i ennill Gwobr Goffa Daniel Owen erioed”.

Profwyd ei phoblogrwydd gan brynwyr hefyd wrth iddi gyrraedd brig rhestr gwerthwyr gorau mis Awst – y tro cyntaf i enillydd y Daniel Owen wneud hynny ers i Robin Llywelyn ennill yn 2004. Meddai Garmon Gruffudd o'r Lolfa: “Mae'n wych cael cystal ymateb i nofel ac i weld y gwerthiant yn parhau - mae'n amlwg i'r gair fynd ar led fod hon yn nofel wirioneddol arbennig, ac yn haeddu'r clod a roddwyd iddi gan feirniaid y gystadleuaeth.”

Ond yn ogystal â'i nofel fuddugol bu hefyd galw mawr am ei nofel Saesneg gyntaf, Twenty Thousand Saints, sydd hefyd newydd fynd i ail argraffiad. Enillodd y nofel hon Wobr Oxfam awdur mwyaf addawol y Gelli i Fflur yn gynharach yn y flwyddyn.

Yr wythnos hon mae Fflur yn dechrau cyfnod fel awdur Preswyl ym Mhrifysgol Iowa yn yr Unol Daleithiau, lle bydd yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau yn cyflwyno'i gwaith yn ogystal â darlithio i fyfyrwyr ar ysgrifennu creadigol. Ond ar ei dychweliad i Gymru mae Fflur hefyd wedi cytuno i gynnal sgwrs am ei nofel sy'n gwatwar Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a hynny yn y Llyfrgell Genedlaethol ei hun! Cynhelir y sesiwn ar 27ain o Dachwedd yn Y Drwm.

Y Lolfa, Medi 2009

 

 

 

DATGANIAD I'R WASG: 01/09/09


FFLUR DAFYDD WRITER IN RESIDENCE AT INTERNATIONAL WRITING PROGRAM, IOWA UNIVERSITY

Fflur is currently writer in residence at Iowa University, where she will be researching her next English language novel, The Library, between September 3rd and October 12th, 2009. She is supported by the British Council and will also be taking part in a number of events – see below:

Schedule of Events for Fflur Dafydd
(as of 8/20/2009:)
Public Events in Iowa

• 9/9: Reading at Prairie Lights Books, 7:00 PM
15 South Dubuque Street, Iowa City, IA USA
1-800-295-BOOK; http://www.prairielights.com/

• 9/25: Panel Presentation at the Iowa City Public Library, 12:00 PM
Meeting Room A, 123 South Linn Street, Iowa City, IA USA
(319) 356-5200; http://www.icpl.org/

Panel Topic: “Translation/Writing Between Languages”
Description:
In what ways has translating, or writing across more than one language, been important to your literary thinking and/or to your creative process?

Other panelists: Vicente Groyon (Philippines), Soheil Najm (Iraq), Lijia Zhang (China)
• NB: other events are forthcoming and may include one or more musical performances by Fflur at one of several venues in downtown Iowa City.


Academic Presentations/Classroom Visits in Iowa
(NB: Classroom visits are NOT open to the public)

• 9/21 International Literature Today. Fflur Dafydd will speak for 15-20 minutes to students enrolled in this undergraduate literature course.


Special Seminar in Creative Writing
Fflur Dafydd will teach a special creative writing seminar to undergraduates at the University of Iowa. This four-week course will meet from 2:30-4:30 PM on 9/11, 9/18, 9/25, and 10/2. Students will gather in a seminar room at the Writers’ House at 111 Church Street, a unique campus space dedicated to fostering writing, artistic collaboration, and literary performance at the University of Iowa.


Activities in Portland, Oregon, 10/3-10/9
(Includes public events and classroom visits)

Fflur Dafydd will join four other IWP writers in Portland, Oregon for several days of readings, talks, and other professional programming. Barry Sanders (west-coast-based author, Senior Fulbright Scholar, two-time Pulitzer Prize nominee, and English professor) is hosting this series of literary events, in collaboration with colleagues at the Pacific Northwest College of Art, Portland State University, Oregon Council for the Humanities, and other local partners. This will be the first IWP delegation to take part in such a dynamic slate of activities in the city.

The precise programme in Portland is still TBD, but will include some or all of the following activities:

• An opening reception at Pacific Northwest College of Art, a fine arts college located in the city of Portland. http://www.pnca.edu/.

• Visits to classes at PNCA and the opportunity to participate in a group reading in the Commons, a large open art-space in the heart of campus: http://www.pnca.edu/studentlife/facilities/commons.php

• An informal roundtable discussion at Portland State University, sponsored by the creative writing department and the English department on the topic of politics and writing.

Trips to see the countryside of the Pacific Northwest--the Gorge, the falls, the many rivers, etc.

 

 

 

cliciwch uchod am fwy o fanylion

 

cliciwch yma i weld y seremoni
o'r Eisteddfod ar BBC iPlayer

DATGANIAD I'R WASG: 04/08/09


NOFEL DDADLEUOL AM UN O BRIF SEFYDLIADAU CYMRU YN CIPIO GWOBR GOFFA DANIEL OWEN


Tair blynedd wedi iddi ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Abertawe a’r Cylch 2006, ac ychydig fisoedd wedi iddi gipio gwobr Awdur Ifanc Oxfam a Gwyl y Gelli 2009 am ei nofel Saesneg Twenty Thousand Saints, mae Fflur Dafydd wedi cyrraedd y brig unwaith eto gyda nofel ddadleuol sy’n cymryd cipolwg ar un o brif sefydliadau Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol. Wedi ei gosod yn y flwyddyn 2020, mae’r nofel yn dilyn criw o gymeriadau yn ystod un diwrnod dramatig pan fydd dwy lyfrgellwraig arfog yn meddiannu’r Llyfrgell.

Mae hon yn nofel ddychanol, ag iddi ddogn hael o hiwmor du, sy’n dychanu lyfrgellwyr, academyddion, gweision sifil, gwleidyddion a phorthorion, ac yn eu taflu’n ddidrugaredd at ei gilydd mewn argyfwng sinistr a bisâr. Y mae’r nofel hefyd yn ymdrin â nifer o themâu cyfredol – digideiddio, ôl-ffeministiaeth, beirniadaeth lenyddol, ac, yn bwysicaf oll, cof a hunaniaeth cenedl. Mae’r nofel yn ddrych amgen o ddyfodol y genedl, dyfodol lle fydd menywod yn llywodraethu; gwleidyddion yn dylanwadu’n ormodol ar y celfyddydau, a’r llyfr – a’r awdur - yn bethau sydd wedi mynd yn angof wrth i’r dechnoleg newydd gymryd eu lle. Mae hon yn sicr yn nofel heriol fydd yn tynnu blewyn o drwyn sawl darllenydd – yn enwedig y beirniaid gwrywaidd - ac sy’n sicr o ysgogi trafodaeth.

Yn debyg i weithiau eraill Fflur Dafydd, fel ei nofel am Enlli, mae’r nofel yn ddadansoddiad difyr o un o eiconau Cymru, gyda’r lleoliad ei hun yn troi’n brif gymeriad yn ystod y nofel, wrth i’r darllenydd weld y sefydliad hwn mewn golau newydd a chyffrous. Cafodd yr awdur ei hysbrydoli gan y lle pan roedd hi yno yn cwblhau ei doethuriaeth ar R.S. Thomas yn 2004, wrth iddi ymweld â’r Llyfrgell yn ddyddiol am gyfnod o dri mis.

“Ro’n i’n ffeindio’n hun yn dychmygu pob math o senarios gwahanol y gallai ddigwydd yn y Llyfrgell yn hytrach na chanolbwyntio ar fy ngwaith! Mae ‘na rhywbeth gwefreiddiol am fawredd yr adeilad, y carped coch, y pileri gwynion, a’r cysyniad fod holl gyfrinachau a hanes y genedl wedi ymgasglu mewn un man. Dyma un o’r sefydliadau mwyaf pwerus ac arwyddocaol sydd gennym yng Nghymru – ond eto dyma’r lle diwethaf y buasai rhywun yn disgwyl terfysg o unrhyw fath, gan ei fod yn le mor dawel a thangnefeddus – a’r ddeuoliaeth honno sy’n fy niddori.”

Mae’r nofel eisioes wedi torri tir newydd, gan mai dyma’r nofel gyntaf i gael ei lleoli yn gyfangwbl yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r nofel hefyd yn gwthio’r ffin rhwng y real a’r abswrd yn wastadol, wrth gynnwys cyfeiriadau at bob math o awduron hanesyddol a ffuglennol, ac er ei bod wedi ei lleoli yn 2020, camp yr awdur yw ei bod wedi creu dyfodol arswydus ac abswrd sy’n ddigon credadwy.

Caiff y nofel ei chyhoeddi ddwy flynedd wedi canmlwyddiant y Llyfrgell Genedlaethol yn 2007.


"Nofel glyfar iawn y gellir ei mwynhau ar sawl lefel, ac y mae ynddi stori ardderchog."
- Rhiannon Lloyd


"Mae'n awdur dyfeisgar dros ben, sydd wedi creu sefyllfa bron yn anhygoel, gan ein cyfareddu, ein sobri, ein harswydo, a'n gogleisio ar yn ail... darn o lenyddiaeth sy'n bleser pur."
- John Rowlands


"Nofel wedi ei chynllunio'n ofalus ac yn gyforiog o hiwmor a choegni a chlyfrwch tafod-mewn-boch."
- Geraint Vaughan Jones

 

Adolygiadau / Mwy:
» Adolygiad 'Y Llyfrgell': Catrin Beard, golwg360.com
» 'Y Llyfrgell': Llyfrgell Genedlaethol Cymru
» 'Y Llyfrgell': Western Mail
» 'Y Llyfrgell': Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffuniau, 2009
» Nofelau Fflur yn cyrraedd y brig - Y Lolfa

 

 

 

DATGANIAD I'R WASG: 24/05/09


Fflur Dafydd yn cipio Gwobr Awdur Ifanc Gwyl y Gelli


Yng Ngwyl y Gelli eleni, fe gyhoeddwyd mai enillydd cyntaf Gwobr Awdur Ifanc yr Wyl yw Fflur Dafydd o Gaerfyrddin.

Yn ystod seremoni arbennig ar Fai 23ain, fe ddywedodd Peter Florence, Cyfarwyddwr Gwyl y Gelli, mai nofel Saesneg gyntaf yr awdur, Twenty Thousand Saints oedd un o’r nofelau gorau iddo ddarllen yn ystod y deng mlynedd diwethaf, gan ategu mai hi yw un o’r awduron ifanc mwyaf cyffrous yng Nghymru ar hyn o bryd. Er mai dyma nofel gyntaf Fflur yn Saesneg, fe enillodd Fflur Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006 am ei hail nofel Atyniad.

Dywedodd David McCullough, Cyfarwyddwr Oxfam “Rydym yn hapus iawn i gydweithio gyda Gwyl y Gelli eleni ac yn llongyfarch Fflur Dafydd, enillydd cyntaf Gwobr Awdur Ifanc yr Wyl.”

Fel rhan o’r wobr, a noddir gan Oxfam, fe dderbyniodd Fflur copi cyntaf o nofel enwog Harper Lee To Kill a Mockingbird, a gyflwynwyd gan Rheolwr Datblygu Llyfrau Oxfan, Graham Draisey.

Fe ymddangosodd Fflur mewn dau ddigwyddiad yng Ngwyl y Gelli eleni, un gyda Nam Le, enillydd Gwobr Dylan Thomas, a’r llall gyda’r awdur a’r darlledwr Jon Gower.

Fe fydd hi nawr yn cychwyn ar daith i hyrwyddo Twenty Thousand Saints, gan wneud darlleniadau yng ngwyl Latitude yn Lloegr ac hefyd yng Ngwyl Lenyddol Lahti yn y Ffindir.

Cyhoeddir Twenty Thousand Saints gan wasg Alcemi.


 

Adolygiadau / Mwy:
» Adolygiad 'Twenty Thousand Saints': Catherine Taylor, The Guardian
» 'Twenty Thousand Saints': Author's Notes, Western Mail
» Adolygiad 'Twenty Thousand Saints': Diva
» Adolygiad 'Twenty Thousand Saints': Western Mail
» Adolygiad 'Twenty Thousand Saints': SwanseaLife