‘93

Ti’n cofio’r si, fod ‘na rhwbeth bach rhwng ti a fi yn ’93?
Os dwi’n cofio’n iawn, doedd e’n ddim byd mwy na mêl a mwg, ar ganol pnawn.

Ond dyna ni, ma mil o sgerbyde wedi codi ers ‘ny
Cant o fynyddoedd wedi tyfu’n gry
A’r unig beth a gedwais oedd hosan brudd, yn ddistaw dan y gwely

Cofia di, ma ‘na dipyn mwy i gariad dau ‘na hanner llun
Fel cefnau noeth, a’r lloer yn dripian-dripian dros ein dannedd poeth.

Datod croen, chwilio am ryw ffordd o rheoli’r boen
Cydio mewn wyneb sydd yn mynnu ffoi,
Datguddio pob un o ffeithiau ddoe, a’r cyfan er mwyn rhoi.

Gronda di, ma ‘na lot ‘di mynd a lot ‘di rhoi ers ‘93
Ma mhen i’n well, a ma mhen ‘di datgan bod hi’n well i fod yn bell

A diolch i ti, am beidio cael dy dwyllo gan fy ngwallt i gyd
Am droi rownd a dweud ‘wir sdim ots da fi’
Ti’n lot rhy dryloyw i gymryd fi, ti’n ddim ond rhif

A dyna ni, dyna’r stori, fel y gwelais hi.

 

« back to 'music'