Leni

Leni Leni, ohoni
‘Runig ddyn sy’n cyffroi fi nawr
Chware rymi gyda’r brymis
Dyma chi ddyn sy’ ddim yn gwenu

Ond fedra i ddim gwisgo coch
Am weddill fy oes
A cofia di, cofia di
Nad yw bob calon mor hyblyg â thoes

Leni Leni dewin-denu, o hyd fy ffolant ffynni
Eiliad wen a’r llenni’n wynnach, minne ‘di meddwl mod i’n dduach
A fedra i ddim gweld llygoden am ddyfnder y braw
A cofia di, cofia di dy fod ti’n arwain y ffordd tua’r glaw

Leni, mêl yw’r wefus ma, mêl yw’r wefus sy’ gen ti
Leni, fel ‘chwaden aur yn tywynnu

Leni Leni hyni byni, llefen y glaw ond ‘sneb yn sylwi
Eiliad fer a’r stafell fyrrach, minne di meddwl mod i’n ddyfnach
Ond fedrai i ddim gwisgo coch am weddill fy oes a cofia di
Nad yw pob calon mor hyblyg â thoes.

 

« back to 'music'