Mr Bogota

Nes i gwrdd a fe rhyw ddiwrnod
Yng nghanol fy mreuddwyd
Nath e ddweud - pwy ti’n meddwl wyt ti?
Ti ‘di troi dy gefn ar y Gorllewin
Am fod rhywun di cyfri o un i dri
Ond be nei di pan mae’r gwaed a’r dwr yn un?
Ti’n dal i gredu mewn hanes wyt ti?
Ma’ gan hanes ei feddwl ei hun.

Nes i feddwl i mi weld e yn stesion Gfrddin
A nes i ddweud wyt ti’n cofio pwy dwi?
Er fi droi fy nghefn ar y Gorllewin
Oedd ‘na un bys yn pwyntio at y Mynydd Du
Ond be nei di pan mae’r gwaed a’r dwˆr yn un?
Ti dal i gredu mewn hanes wyt ti
Ma’ gan hanes ei feddwl ei hun.

Mr Bogota sy’n mynd i’n hachub ni
Mr Bogota sy’n mynd i achub y dydd
Mr Bogota sy’n mynd i’n achub ni
Mr Bogota sy’n mynd i achub ni achub ni achub ni.

Nes i weld e wedyn ar y sgrin un noson
A’r un oedd ei neges gudd
Waeth ti droi dy gefn ar y Gorllewin
Nes fod rhywun yn cyfri o dri i un.
Ond be nei di pan mae’r gwaed a’r dwr yn un?
Ti dal i gredu mewn hanes wyt ti
Ma gan hanes ei feddwl ei hun.

Mr Bogota sy’n mynd i’n hachub ni
Mr Bogota sy’n mynd i achub y dydd
Mr Bogota sy’n mynd i’n achub ni
Mr Bogota sy’n mynd i achub ni achub ni achub ni

 

MR BOGOTA: A song inspired by the intriguing figure of Hywel Hughes, Bogota, Colombia – a Welsh ex-pat who emigrated to Columbia from Wales. He was a cattle-breeder, a coffee exporter, and a fervent Welsh Nationalist, an interesting combination. The song discusses the predicament of leaving your country to create a better life for yourself but still being committed to your nation. While blood’s thicker than water, sometimes the blood and water combine.

 

« back to 'music'