Tan yr Angladd

Tan yr angladd doedd ganddi ddim syniad
Iddo’i charu ar hyd ei oes
Doedd ganddo ddim bwriad, doedd ganddo dim brawddeg
Ond roedd ganddo’i henw hi a’i groes.
Tan yr angladd doedd ganddi ddim syniad
Fod ‘na lun ohoni hi yn y ty
Yn gwenu o’r pentan, yn welw yn wantan
Ar wˆr na wyddai oedd ganddi.

Tan yr angladd
Doedd ganddi ddim syniad
Sut fath o deimlad
Oedd bod mewn cariad
Tan yr angladd
Doedd ganddi ddim syniad
Fod na’r fath beth a chariad
Ei fod e’n benderfyniad.

A ‘rôl yr angladd roedd pawb wrth y porthladd
Yn ffarwelio a’r gwr yn fud,
Yn boddi mewn alaw, a’i adlais mor ddistaw
A llygaid pawb yn troi ati hi
Ond tra ma’r lleuad lawn
A’i donnau mawr, yn dal i ddyrnu’r dydd
Fydd hi’n weddw o hapus, yn weddw o weddus
Er na briododd hi’r un dyn.

Tan yr angladd
Doedd ganddi ddim syniad
Sut fath o deimlad
Oedd bod mewn cariad.
Tan yr angladd
Doedd ganddi ddim syniad
Mai dyna gariad
Yn yr edrychiad.

Tan yr angladd wir doedd dim byd
Y nos yn ddistaw a’i byd yn gul
Rôl yr angladd roedd y llwch mor fân
Yn raddol raddol ddaeth na ddwylo o’r tân
A tra ma’r dwrnod yma’n ddalen lân
Gad yr inc i arllwys dafnau mân
Pan wyt ti’n briod gyda’r oriau mân
Ti’n cofio’r llwch ond ti’m yn cofio’r tân...

 

UNTIL THE FUNERAL: A ballad of ill-fated love. Upon a friend’s death, a woman finds out that he loved her passionately throughout his life but never told her. Having never married, she goes to the funeral feeling like his widow, though she was never his wife. Yet she feels happy – having found out that she’s been loved – better late than never.

 

« back to 'music'