35 Awr: Drama ysgytwol, blaen-eich-sedd i danio 2019


‘Pan ddaw yr awr, fe ddaw y dyn’ – ac yng nghyd-destun teledu, dyma’r gyfres fydd yn siŵr o achub unrhyw Ionawr diflas; y ddrama ensemble murder mystery i hoelio’ch sylw ac i ragori ar unrhyw Agatha Christie neu gêm feddwol o Cluedo.

Cywaith newydd, cyffrous rhwng S4C a chwmni cynhyrchu Boom Cymru yw’r gyfres gynhyrfus hon, sy’n cyfuno cyfarwyddo steilus, perfformiadau cynnil, a sgriptio crefftus gan Fflur Dafydd, mewn wyth pennod awr o hyd, yn dechrau ar S4C ar Ionawr 6ed.

Y cynhyrchydd, Paul Jones, sy’n crynhoi’r cyfan mewn ffigyrau: ‘Tu fewn i ffiniau’r ddrama, mae’r cyfan yn digwydd dros gyfnod o 35 awr – gydag 1 achos llys o lofruddiaeth, 12 aelod rheithgor, 3 marwolaeth, 2 ddamwain, a llawer iawn o broblemau personol’.

‘Ychwanegwch at hyn 1 olygfa rywiol na welwyd mo’i thebyg ar S4C o’r blaen, ac mae ‘na gryn botensial i fywiogi’ch misoedd gaeafol llwm…’

Er ei bod yn perthyn i’r gyfres boblogaidd 35 Diwrnod, mi fydd 35 Awr yn sicr yn dilyn llwybr ychydig yn wahanol i’r gweddill, gyda chyfyngiad ar yr amseru arferol, naws gyflymach a gafaelgar o’r cychwyn cyntaf, a dwy stori whodunnit yn cyd-redeg.

Mae’r ddwy stori yma’n cynnwys hanes presennol aelodau’r rheithgor wrth iddynt drin yr achos llys a’u bywydau cymhleth mewn ystafell reithgor a gwesty crand; a stori’r achos troseddol dan sylw, sy’n raddol ddatblygu drwy flashbacks a’r amser presennol.

Yn chwarae’r 12 ‘dieithryn’ yma o wahanol gefndiroedd y mae cast ensemble gwych, gan gynnwys Gillian Elisa, Christine Pritchard, Jâms Thomas, Lisa Victoria – yn ei rôl cyntaf ers Pobol y Cwm, Tara Bethan, Iestyn Arwel, Rebecca Hayes, Dafydd Llŷr Tomas, Lisa Marged, Aled Pedrick, Carwyn Jones a Gareth John Bale; hefyd yn serennu’n y ddrama y mae Ioan Hefin a Lowri Palfrey a dau actor addawol newydd, Aled ap Steffan a Sion Eifion.

Rhyngddynt, maent yn chwarae llu o gymeriadau diddorol, gan gynnwys diffynnydd trist a chythryblus, llyfrgellydd ffyslyd gydag OCD, merch ifanc gynllwyngar, a mam emosiynol mewn penbleth – a doedd yr un actor yn cael gwybod cynnwys sgriptiau’r lleill, na chwaith pa gysylltiad yr oedd ganddynt â marwolaeth yr agoriad.

Fel y cyfresi blaenorol, y ‘farwolaeth’ amheus hyn fydd yn hoelio’n sylw ar y dechrau, ac yn ystod eiliadau agoriadol y bennod gyntaf – cyn i ni droi at drafodion y rheithgor – cawn fflach sydyn o erchylltra’r diweddglo, wrth i gorff person byw ar dân chwyrlïo o flaen y gwesty.

Ac os yw’r farwolaeth honno’n hollol ddychrynllyd, mae llofruddiaeth yr achos llys yn creu anghysur mewn ffordd arall, sinistr, cymhleth, emosiynol a thrasig, ac yn arwain at fygythiad gwirioneddol i ddiogelwch personol aelodau’r rheithgor o sawl cyfeiriad.

Y bygythiad hyn sy’n golygu bod yn rhaid symud y 12 rheithiwr – sydd yng nghanol trafod eu dedfryd – i westy gwledig crand i ddisgwyl cyfarwyddiadau pellach; ond wrth gwrs mae’r gwin yn llifo, y tafodau’n llacio, a’r emosiynau’n tasgu – a chawn ymgecru, ymladd, perthnasau rhywiol, cynllwynio, twyll a mwy…

Meddai’r awdur Fflur Dafydd, sydd hefyd yn adnabyddus am sgriptio’r gyfres boblogaidd Parch a’r ffilm gyffrous Y Llyfrgell, ‘Yr eironi llwyr wrth gwrs yw bod criw o bobl rhagfarnllyd a mympwyol sydd â’u bywydau anniben eu hunain, yn gyfrifol am drafod achos llys cymhleth a phenderfynu ar euogrwydd dieithryn.’

‘Dw i’n credu taw’r cymeriad tawel a dwys, Steve, sy’n crisialu hyn orau wrth ddweud: ‘Jest pobl ‘y ni – pobl amherffaith gyda pob siort o ragfarnau – a ni sy’ fod i weithio mas beth yw’r gwir’’.

‘Mae’r cymeriadau mewn sefyllfa pressure cooker anghyffredin oherwydd pwysau’r achos a’r cyfyngiad ar eu rhyddid – ac mae potensial i’r holl beth droelli allan o reolaeth yn llwyr.’

‘Ond er mor dywyll yw’r digwyddiadau, mae ‘na hiwmor anorfod yn deillio o’r ffaith fod yn rhaid i 12 person sydd â dim byd yn gyffredin dreulio gymaint o amser gyda’i gilydd!”

I wylio’r holl beth yn datgymalu, cofiwch wylio S4C yn wythnosol am 9yh nos Sul, o Ionawr 6ed.

35 Awr

Nos Sul 6 Ionawr, 9.00

Isdeitlau Saesneg                      

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C