Mae ffilmio wedi gorffen a’r gwaith ôl-gynhyrchu yn ei anterth ar y gyfres ddiweddaraf o’r ddrama drosedd boblogaidd 35 Diwrnod a fydd yn ôl ar S4C ar ddydd Sul, 26 Ebrill am 9.00.
Llynedd symudodd y brand o 35 Diwrnod i 35 Awr gyda’r ddrama gyfan wedi gosod mewn gwesty. Cafodd yr awdur Fflur Dafydd ei henwebu gan Bafta Cymru am ei gwaith ar y gyfres a nawr mae hi nôl fel awdur y pumed cyfres – 35 Diwrnod: Parti Plu.
Mae Beth (Gwenllian Higginson) a’i darpar ŵr Dylan (Geraint Todd) yn mynd i gael priodas haf heb ei hail. Gyda 35 diwrnod tan y diwrnod mawr, mae popeth yn ei le: ffroc designer, bynting vintage, buffet sushi, gwesteion gwerth eu gweld.
Ar y rhestr gwesteion mae’r hen griw o’r ysgol, y ffrindiau pennaf yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf mewn pum mlynedd. Ond sut mae ail-gydio yn y berthynas honno ar ôl popeth sydd wedi digwydd?
Dyma Fflur Dafydd yn esbonio mwy am y stori: “Mae’r stori yn agor gyda chriw o ferched (ac un bachgen) mewn fitting ffrog briodas, 35 diwrnod cyn y briodas. Y syniad craidd yw eu bod nhw wedi nabod ei gilydd ers yn ifanc ond mae ‘na densiynau yn eu perthynas nhw yn dilyn rhywbeth digwyddodd rhyw bum mlynedd yn ôl.
“Hefyd, da ni’n ymwybodol bod ‘na ffrind absennol ond dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd iddi hi a pham dyw hi ddim yn rhan o’r grŵp – ydy hi dal yn fyw? Lle mae hi? Felly mae rhywfaint o ddirgelwch o’r dechrau ynglŷn a’r briodas ‘ma ac mae na densiwn ‘da ni ddim cweit yn ddeall ond sy’n dod i’r amlwg yn ystod y gyfres.”
“Bydd na gorff, fel pob gyfres 35 arall, ar ddechrau’r bennod cyntaf, a hynny ar ddiwrnod y briodas – da ni’n gweld veil yn y dŵr a chorff. Felly da ni’n gwybod bod llofruddiaeth – dyna beth yw brand 35 – llofruddiaeth ac wedyn mynd nôl i weld pwy sy’n gyfrifol. Ond dyw’r un yma ddim yn teimlo fel gymaint o whodunnit rhywsut – y cymeriadau a’u cyfrinachau sydd o ddiddordeb i ni y tro hwn.”
Dywedodd Amanda Rees, cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Mae brand 35 wedi bod yn llwyddiannus iawn ac erbyn hyn yn un o gyfresi drama mwyaf poblogaidd S4C. Mae’r cwmni cynhyrchu Boom wedi llwyddo dal dychymyg ein cynulleidfa ni ac wedi eu cadw ar flaenau eu seddi trwy weithio gyda thalentau Cymreig heb eu hail o flaen a thu ôl i’r camera. Rydw i wrth fy modd bod y ddrama gyffrous, ac arloesol hon yn dychwelyd yng Ngwanwyn 2020.”
Ers y gyfres gyntaf yn 2014, mae’r brand wedi ennill gwobrau Bafta Cymru i’r cwmni cynhyrchu Boom ac wedi ei haddasu i’r Saesneg gyda’r teitl 15 Days i Channel 5. Mae hi hefyd wedi gwerthu yn rhyngwladol, ac ar gael ar Britbox yn America a Rialto Channel yn Seland Newydd.
Dywedodd Paul Jones, cynhyrchydd: ”Yr her gyda phob cyfres o 35 Diwrnod yw nid yn unig greu byd newydd a diddorol ond gweithio unwaith yn rhagor ar ddullie newydd o ladd pobol! Yn ogystal, yn y gyfres newydd, os sylwch chi, dyw hi ddim yn hollol glir pwy yw’r corff sy’n arnofio yn y dŵr, felly’r gamp ychwanegol sydd gan y gwyliwr y tro hwn yw, nid yn unig ddyfalu pwy yw’r llofrudd ond i chware’r gêm, a cheisio dyfalu os taw’r briodferch, neu gorff person arall sy’n arnofio yn y dŵr?”