Mae Fflur Dafydd yn awdur nofelau, straeon byrion, cyfresi teledu a ffilmiau, ac mae wedi ennill nifer o wobrau am ei gwaith.

Cyhoeddodd 6 o gyfrolau hyd yma. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2006 a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2009 am ei nofelau Atyniad a Y Llyfrgell, ac y mae hefyd wedi cyhoeddi dwy nofel Saesneg - Twenty Thousand Saints, (enillydd Gwobr Oxfam & Gŵyl y Gelli 2009) a The White Trail. Cafodd Awr y Locustiaid, ei chyfrol gyntaf o straeon byrion, ei addasu ar gyfer y radio.

Hi yw dyfeisydd ac awdur y gyfres boblogaidd Parch i S4C, a dderbyn iodd dair enwebiad BAFTA Cymru. Cafodd Fflur hefyd ddwy enwebiad BAFTA Cymru arall am yr awdur gorau yn 2017 a 2019 am ei gwaith ar Y Llyfrgell a’r gyfres drosedd 35 awr. Hi hefyd yw awdur cyfres 5 o 35 Diwrnod. Y mae bellach wedi ysgrifennu dros 40 awr o deledu i S4C a’r BBC iPlayer, ac fe fydd ei chyfres deledu newydd ‘Yr Amgueddfa’ yn ymddangos ar S4C yn 2021. Ysgrifennodd hefyd benodau o Humans ar gyfer fersiwn rhyngwladol o gyfres boblogaidd Channel 4 i Endemol Shine.

Hi hefyd yw cyd-gynhyrchydd ac awdur y ffilm Y Llyfrgell, sy’n addasiad o’i nofel ei hun. Mae’r ffilm hon wedi derbyn clod rhyngwladol, wedi derbyn nifer o enwebiadau, gan ennill BAFTA Cymru yn 2017 a Gwobr Gwyl Ffilm Rhyngwladol Caeredin am y perfformiad gorau mewn ffilm Brydeinig yn 2016.

Yn ei hamser sbar, mae Fflur hefyd yn creu cerddoriaeth. Mae hi wedi cyhoeddi pedair albwm fel cantores-gyfansoddwraig ac enillodd deitl Artist Benywaidd y Flwyddyn BBC Radio Cymru yn 2010.

Image