Gwobr Hartswood a BBC Writersroom

Yr wythnos hon fe gyhoeddwyd mai Fflur, ar y cyd gyda’r awdur Alan Harris, yw enillydd gwobr Hartswood a BBC Writersroom, cynllun sy’n rhoi’r cyfle i awduron profiadol i ddatblygu eu gwaith ymhellach a chynnig syniad drama wreiddiol i’r BBC. Mae’r cynllun wedi ei noddi gan ScreenSkills High-end TV Fund, ac fe fydd Fflur yn derbyn ysgoloriaeth dros y chwe mis nesaf i ddatblygu syniadau gwreiddiol i gwmni Hartswood, cwmni sy’n gyfrifol am raglenni cyffrous fel Sherlock i’r BBC. Fel rhan o’r ysgoloriaeth, fe fydd Fflur yn derbyn cyngor gan rai o awduron teledu mwyaf llwyddiannus Cymru, Russell T Davies (A Very English Scandal, Doctor Who) a Cath Tregenna (Torchwood, Law & Order).

Meddai Fflur: “Dwi wedi edmygu gwaith Hartswood Films ers amser, ac mae’n wych i gael cydweithio â nhw i ddatblygu syniad newydd a chyffrous ar gyfer y BBC. Dwi’n teimlo’n angerddol dros bortreadu cymeriadau Cymraeg a Chymreig ar y sgrin fach mewn ffordd sy’n dangos pa mor naturiol ddoniol, diddorol a gwahanol ydyn ni fel pobl. Mi fydd hi’n wych i gael rhywun mor brofiadol â Russell T Davies yn goruchwylio’r broses.”