Yr Amgueddfa yn derbyn enwebiad BAFTA Cymru

Yn dilyn enwebiadau yng ngwobrau RTS Cymru, a’r Wyl Gyfryngau Geltaidd, cafodd Yr Amgueddfa enwebiad BAFTA CYMRU 2022 ar gyfer y ddrama deledu orau. Mae’r gyfres yn parhau i werthu’n rhyngwladol, a hyd yma wedi cael ei gwerthu i Britbox yn UDA a Chanada, AXN Mystery yng Nghanada a EITB yng Ngwlad y Basg. Fe fydd yr ail gyfres yn cael ei darlledu ym mis Ionawr.

Drama newydd Fflur yn dechrau ar S4C

Nos Sul, Mai 30ain fe fydd drama newydd Fflur, Yr Amgueddfa, yn cynnig genre newydd sbon wrth i wylwyr S4C gael y cyfle i fwynhau thriller cadwraethol am y tro cyntaf ar y sianel.

Mae Yr Amgueddfa wedi ei leoli yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd – ac yn mynd a ni i mewn i fyd tywyll a pheryglus trosedd celf.

Mae DELA HOWELLS (Nia Roberts) yn ddynes lwyddiannus, gwraig ffyddlon i ALUN (Steffan Rhodri) a mam gariadus i ddau o blant DANIEL (Samuel Morgan-Davies) a MAGS (Mared Jarman). Mae hi newydd dderbyn swydd fel cyfarwyddwr cyffredinol yr amgueddfa ac mae bywyd yn dda.

Ar yr un noson mae’n dathlu ei swydd newydd mewn parti yn yr amgueddfa, mae hi’n cwrdd â dyn ifanc CALEB (Steffan Cennydd) sydd wedi dod fel gwestai i’w mab hoyw Daniel. Mae Dela’n cael ei swyno’n llwyr gan Caleb ac yn syrthio mewn i berthynas nwydus gydag e. Ond mae Dela’n darganfod fod gan Caleb fwriadau ychydig yn fwy sinistr wrth ddechrau perthynas â hi.

Boom Cymru (35 Diwrnod – Parti Plu, Parch) sy’n cynhyrchu’r ddrama sy’n cynnwys rhai o actorion mwyaf disglair Cymru sef Nia Roberts (Y Gwyll/Hinterland, Bang, The Crown, Craith/Hidden), Steffan Rhodri (Gavin and Stacey, A Very English Scandal), Sharon Morgan (Pobol y Cwm, Martha, Jac a Sianco) a Delyth Wyn (35 Diwrnod).

Mae hefyd sawl wyneb newydd ymysg y cast, gyda Steffan Cennydd (Craith/Hidden, Enid a Lucy), yn y brif ran fel Caleb, a Samuel Morgan-Davies a Mared Jarman yn chwarae plant Dela, Dan a Marged.

Mae Fflur yn gweithio unwaith eto gyda’r cynhyrchydd profiadol Paul Jones, a gynhyrchodd nifer o ddramâu gan gynnwys 35 Awr, Con Passionate, Martha, Jac a Sianco a Parch.

Mae Fflur yn cyfaddef bod ganddi obsesiwn gyda sefydliadau Cymru – hi ysgrifennodd Y Llyfrgell a’i droi mewn i ffilm o’r un enw wedi ei seilio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Meddai Fflur: “Mae’n braf gallu dod â sefydliadau Cymru i sylw mewn ffordd mwy creadigol. Mae’n rhyw fath o genhadaeth yn fy ngwaith i – mynd ar ôl y pethau sydd yn teimlo tipyn bach yn anweledig er eu bod nhw’n enfawr ac yn bwysig. Trwy greu genre fel y thriller cadwraethol, mae’n teimlo fel ‘mod i’n creu rhywbeth sy’n reit unigryw i Gymru, a gan bod y thrillers confensiynol ychydig yn dreuliedig erbyn hyn, mae’n eitha’ neis i fynd ar ôl trosedd yn y byd celf, lle mae ‘na gyffro a chyfrinachau o fath gwahanol.”

Meddai Paul Jones o gwmni gynhyrchu Boom: “Cof plentyn bychan, yn cael fy nhywys gerfydd fy llaw ar hyd orielau mawreddog rhodresgar yr Amgueddfa Genedlaethol, yna yn fy arddegau yr orielau yn guddfan ar aml bnawn Sadwrn rhag y glaw. Yn awr gyda Yr Amgueddfa, cael cyfle i ymweld unwaith yn rhagor â hi, a chreu drama llawn twyll a chynllwynio ar hyd ei horielau!”

Fe fydd y gyfres gyfan ar gael fel bocs set ar wasanaeth S4C Clic wedi darlledu’r bennod gyntaf.

Cyfrol gyntaf Fflur Dafydd yn Gymraeg ers 10 mlynedd

Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr cyntaf Fflur Dafydd yn y Gymraeg ers deng mlynedd. Mae Lloerganiadau (Y Lolfa) yn gyfrol o atgofion personol am blentyndod ac arddegau yr awdures yn ardal Ceredigion dan olau’r lloer, ei chyfrol Gymraeg gyntaf ers cyhoeddi Y Llyfrgell a ddatblygwyd fel ffilm boblogaidd.

Meddai Fflur Dafydd:

“Cyfrol o ysgrifau personol yw hi – nid hunangofiant fel y cyfryw, ond yn hytrach lloer-gofiant – cyfnodau mewn tywyllwch neu olau leuad sy’n gefnlen i bob un profiad neu stori. Mae’n amrywio o drafod profiadau plentyn ar goll mewn tywyllwch a merch yn ei harddegau yn mynd ar antur gyda’i chariad i mam flinedig ar ei thraed yn bwydo trwy’r nos. Mae ’na hefyd ysgrifau am ofodwragedd, am ffilmiau, am bartïon gwyllt ac am gyfeillgarwch. Nid oes llawer o lyfrau ffeithiol greadigol yn y Gymraeg am fywydau cyffredin menywod a’u perthnasau â phobl eraill.

“Mae fy rhieni wedi symud o Landysul bellach, felly roedd hi’n teimlo fel diwedd cyfnod ac roeddwn yn teimlo rhyw ysfa i gofnodi hynny. Rhywsut fe blethodd fy ymchwil am y lloer (ar gyfer sioe Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020) gyda fy atgofion personol, gan ganiatáu i mi edrych ar gyfnodau gwahanol yn fy mywyd i trwy gyfrwng cyfnodau’r lloer. Mae’r syniad o gofnodi fy mhlentyndod wedi bod yng nghefn fy meddwl ers blynyddoedd.”

Roedd Fflur Dafydd hefyd wedi ysgrifennu’r sioe ‘Lloergan’ ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Tregaron – am ddynes o Dregaron yn mynd i’r lleuad yn 2050. Nid yw’r llyfr yma yr un peth â’r sioe o gwbl ond mae’n sicr yn gosod cyd-destun. Yn sgil cyfyngiadau diogelwch y Coronafeirws, gohiriwyd yr Eisteddfod ac felly’r sioe, gyda’r gobaith y bydd y ddau yn digwydd blwyddyn nesaf.

Mae Fflur Dafydd yn awdur, sgriptwraig a cherddor ar ei liwt ei hun. Enillodd ei hail nofel, Atyniad, y Fedal Ryddiaith yn 2006, ac fe gipiodd hefyd Wobr Goffa Daniel Owen gyda’i nofel Y Llyfrgell yn 2009, y troswyd hi’n ffilm yn 2016. Enillodd ei nofel Saesneg, Twenty Thousand Saints, wobr Gŵyl y Gelli am Awdur Mwyaf Addawol 2007. Hi yw dyfeisydd a sgriptwraig y gyfres boblogaidd Parch (S4C); ac mae hefyd wedi sgriptio cyfresi eraill megis 35 Awr a 35 Diwrnod, gan dderbyn sawl enwebiad BAFTA Cymru.

Mae Lloerganiadau gan Fflur Dafydd ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).

Derbyniad ffafriol i 35 Diwrnod

35 Diwrnod, S4C


Fe ddychwelodd drama drosedd Fflur, 35 Diwrnod, i’r sgrin ar nos Sul, Ebrill 26ain, ac y mae’r gyfres eisioes wedi cael derbyniad ffafriol yng Nghymru a thu hwnt, gyda’r Sunday Times yn dewis y gyfres fel ‘Critics’ Choice’ gan ganmol y sgriptio ‘doniol a beiddgar.’ Dywedodd Dylan Wyn Williams hefyd fod y gyfres yn ‘argoeli i fod gyda’r gorau o frand llwyddiannus 35 eto,’ a nododd Sioned Williams ar raglen Dewi Llwyd ei bod yn ‘cynnig adloniant ac yn eich cadw ar flaen eich sedd.’

Llynedd symudodd y brand o 35 Diwrnod i 35 Awr gyda’r ddrama gyfan wedi gosod mewn gwesty. Cafodd Fflur ei henwebu gan Bafta Cymru am ei gwaith ar y gyfres a nawr mae hi nôl fel awdur y pumed cyfres – 35 Diwrnod: Parti Plu.

Mae Beth (Gwenllian Higginson) a’i darpar ŵr Dylan (Geraint Todd) yn mynd i gael priodas haf heb ei hail. Gyda 35 diwrnod tan y diwrnod mawr, mae popeth yn ei le: ffroc designer, bynting vintage, buffet sushi, gwesteion gwerth eu gweld.

Ar y rhestr gwesteion mae’r hen griw o’r ysgol, y ffrindiau pennaf yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf mewn pum mlynedd. Ond sut mae ail-gydio yn y berthynas honno ar ôl popeth sydd wedi digwydd?

Dyma Fflur yn esbonio mwy am y stori: “Bydd na gorff, fel pob gyfres 35 arall, ar ddechrau’r bennod cyntaf, a hynny ar ddiwrnod y briodas – da ni’n gweld veil yn y dŵr a chorff. Felly da ni’n gwybod bod llofruddiaeth – dyna beth yw brand 35 – llofruddiaeth ac wedyn mynd nôl i weld pwy sy’n gyfrifol. Ond dyw’r un yma ddim yn teimlo fel gymaint o whodunnit rhywsut – y cymeriadau a’u cyfrinachau sydd o ddiddordeb i ni y tro hwn.”

Ers y gyfres gyntaf yn 2014, mae’r brand wedi ennill gwobrau Bafta Cymru i’r cwmni cynhyrchu Boom ac wedi ei haddasu i’r Saesneg gyda’r teitl 15 Days i Channel 5. Mae hi hefyd wedi gwerthu yn rhyngwladol, ac ar gael ar Britbox yn America a Rialto Channel yn Seland Newydd.

Mae 35 Diwrnod yn parhau ar nos Sul ar S4C, ac mae ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer gyda isdeitlau Saesneg.

35 Diwrnod yn dychwelyd gyda dirgelwch cyffrous newydd

Katie (Ella Peel), Angharad (Emmy Stonelake), Beth (Gwenllian Higginson) a Rhian (Fflur Medi) yn ffilmio’r parti plu yn Ninbych-y-Pysgod.

Mae ffilmio wedi gorffen a’r gwaith ôl-gynhyrchu yn ei anterth ar y gyfres ddiweddaraf o’r ddrama drosedd boblogaidd 35 Diwrnod a fydd yn ôl ar S4C ar ddydd Sul, 26 Ebrill am 9.00.

Llynedd symudodd y brand o 35 Diwrnod i 35 Awr gyda’r ddrama gyfan wedi gosod mewn gwesty. Cafodd yr awdur Fflur Dafydd ei henwebu gan Bafta Cymru am ei gwaith ar y gyfres a nawr mae hi nôl fel awdur y pumed cyfres – 35 Diwrnod: Parti Plu.

Mae Beth (Gwenllian Higginson) a’i darpar ŵr Dylan (Geraint Todd) yn mynd i gael priodas haf heb ei hail. Gyda 35 diwrnod tan y diwrnod mawr, mae popeth yn ei le: ffroc designer, bynting vintage, buffet sushi, gwesteion gwerth eu gweld.

Ar y rhestr gwesteion mae’r hen griw o’r ysgol, y ffrindiau pennaf yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf mewn pum mlynedd. Ond sut mae ail-gydio yn y berthynas honno ar ôl popeth sydd wedi digwydd?  

Dyma Fflur Dafydd yn esbonio mwy am y stori: “Mae’r stori yn agor gyda chriw o ferched (ac un bachgen) mewn fitting ffrog briodas, 35 diwrnod cyn y briodas. Y syniad craidd yw eu bod nhw wedi nabod ei gilydd ers yn ifanc ond mae ‘na densiynau yn eu perthynas nhw yn dilyn rhywbeth digwyddodd rhyw bum mlynedd yn ôl.

“Hefyd, da ni’n ymwybodol bod ‘na ffrind absennol ond dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd iddi hi a pham dyw hi ddim yn rhan o’r grŵp – ydy hi dal yn fyw? Lle mae hi? Felly mae rhywfaint o ddirgelwch o’r dechrau ynglŷn a’r briodas ‘ma ac mae na densiwn ‘da ni ddim cweit yn ddeall ond sy’n dod i’r amlwg yn ystod y gyfres.”

“Bydd na gorff, fel pob gyfres 35 arall, ar ddechrau’r bennod cyntaf, a hynny ar ddiwrnod y briodas – da ni’n gweld veil yn y dŵr a chorff. Felly da ni’n gwybod bod llofruddiaeth – dyna beth yw brand 35 – llofruddiaeth ac wedyn mynd nôl i weld pwy sy’n gyfrifol. Ond dyw’r un yma ddim yn teimlo fel gymaint o whodunnit rhywsut – y cymeriadau a’u cyfrinachau sydd o ddiddordeb i ni y tro hwn.”

Dywedodd Amanda Rees, cyfarwyddwr Cynnwys S4C: “Mae brand 35 wedi bod yn llwyddiannus iawn ac erbyn hyn yn un o gyfresi drama mwyaf poblogaidd S4C. Mae’r cwmni cynhyrchu Boom wedi llwyddo dal dychymyg ein cynulleidfa ni ac wedi eu cadw ar flaenau eu seddi trwy weithio gyda thalentau Cymreig heb eu hail o flaen a thu ôl i’r camera. Rydw i wrth fy modd bod y ddrama gyffrous, ac arloesol hon yn dychwelyd yng Ngwanwyn 2020.”

Ers y gyfres gyntaf yn 2014, mae’r brand wedi ennill gwobrau Bafta Cymru i’r cwmni cynhyrchu Boom ac wedi ei haddasu i’r Saesneg gyda’r teitl 15 Days i Channel 5. Mae hi hefyd wedi gwerthu yn rhyngwladol, ac ar gael ar Britbox yn America a Rialto Channel yn Seland Newydd.

Dywedodd Paul Jones, cynhyrchydd: ”Yr her gyda phob cyfres o 35 Diwrnod yw nid yn unig greu byd newydd a diddorol ond gweithio unwaith yn rhagor ar ddullie newydd o ladd pobol! Yn ogystal, yn y gyfres newydd, os sylwch chi, dyw hi ddim yn hollol glir pwy yw’r corff sy’n arnofio yn y dŵr, felly’r gamp ychwanegol sydd gan y gwyliwr y tro hwn yw, nid yn unig ddyfalu pwy yw’r llofrudd ond i chware’r gêm, a cheisio dyfalu os taw’r briodferch, neu gorff person arall sy’n arnofio yn y dŵr?”

Enwebiad BAFTA Cymru i Fflur

Mae Fflur wedi derbyn enwebiad yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni, yng nghategori yr awdur gorau, am ei gwaith sgriptio ar y gyfres boblogaidd 35 awr. Dyma’r eildro iddi gael ei henwebu am y wobr hon, gan iddi gyrraedd y rhestr fer yn 2017 am ei ffilm Y LLYFRGELL, a dderbyniodd 4 enwebiad y flwyddyn honno, gan ennill y BAFTA ar gyfer y Cyfarwyddwr Gorau i Euros Lyn. Fe dderbyniodd ei chyfres ddrama PARCH hefyd ddwy enwebiad yn 2017 (Drama Deledu Orau ac Actores Orau), a hefyd enwebiad yn 2018 ar gyfer y Ddrama Deledu orau.

Dathlu diweddglo cyfres 35 awr

Cafwyd noson wych yng Nghanolfan Yr Egin, Caerfyrddin ar nos Sul, Chwefror 24, i ddathlu diwedd cyfres gyffrous Fflur, 35 awr. Cafwyd sesiwn holi ac ateb gyda aelodau’r cast a thim creadigol allweddol (Fflur, Paul Jones, Rhys Powys) yn dilyn y dangosiad, gyda Gillian Elisa yn diddanu trwy esbonio sut greodd hi Val, a Jâms Thomas yn esbonio faint o golur oedd eisiau ar Haydn fel dyn ar dân. Cafwyd ymateb gwych ar y cyfryngau cymdeithasol a hefyd adolygiadau mwy manwl ar wefannau Wales in the Movies a The Killing Times. Darllenwch yr adolygiadau isod.

Adolygiad The Killing Times

Adolygiad Wales in The Movies

 

Rhag-ddangosiad: Pennod olaf 35 AWR + sesiwn holi (Caerfyrddin)

Ar nos Sul, 24ain o Chwefror 2019 am 7:00yh, fe fydd dangosiad arbennig o bennod olaf y gyfres gyffrous 35 awr yn cael ei dangos yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin.

Fe fydd Boom Cymru ac S4C yn cyflwyno pennod olaf y gyfres wyth-rhan a osodir mewn ystafell reithgor, gyda 12 o bobl yn trafod achos o lofruddiaeth.

Mae Fflur erbyn hyn wedi derbyn sawl enwebiad gan BAFTA Cymru (awdur gorau am Y Llyfrgell, cyfres ddrama orau am Parch) ac mae sêr y gyfres yn cynnwys Gillian Elisa (Craith) Lisa Marged (Parch, Wolfblood) a Jâms Thomas (Torchwood, Gwaith Cartref).

Bydd sesiwn holi ac ateb gyda aelodau’r cast a thim creadigol allweddol yn dilyn y dangosiad.

Tocynnau cyhoeddus yma

Dilynwch y gyfres bob dydd Sul am 9pm ar S4C a dal i fyny gyda phenodau y gallech fod wedi’u colli ar yr iplayer.

Gwobr Hartswood a BBC Writersroom

Yr wythnos hon fe gyhoeddwyd mai Fflur, ar y cyd gyda’r awdur Alan Harris, yw enillydd gwobr Hartswood a BBC Writersroom, cynllun sy’n rhoi’r cyfle i awduron profiadol i ddatblygu eu gwaith ymhellach a chynnig syniad drama wreiddiol i’r BBC. Mae’r cynllun wedi ei noddi gan ScreenSkills High-end TV Fund, ac fe fydd Fflur yn derbyn ysgoloriaeth dros y chwe mis nesaf i ddatblygu syniadau gwreiddiol i gwmni Hartswood, cwmni sy’n gyfrifol am raglenni cyffrous fel Sherlock i’r BBC. Fel rhan o’r ysgoloriaeth, fe fydd Fflur yn derbyn cyngor gan rai o awduron teledu mwyaf llwyddiannus Cymru, Russell T Davies (A Very English Scandal, Doctor Who) a Cath Tregenna (Torchwood, Law & Order).

Meddai Fflur: “Dwi wedi edmygu gwaith Hartswood Films ers amser, ac mae’n wych i gael cydweithio â nhw i ddatblygu syniad newydd a chyffrous ar gyfer y BBC. Dwi’n teimlo’n angerddol dros bortreadu cymeriadau Cymraeg a Chymreig ar y sgrin fach mewn ffordd sy’n dangos pa mor naturiol ddoniol, diddorol a gwahanol ydyn ni fel pobl. Mi fydd hi’n wych i gael rhywun mor brofiadol â Russell T Davies yn goruchwylio’r broses.”

 

 

35 awr yn cael derbyniad chwilboeth

Yr wythnos hon fe fydd y drydedd bennod o thriller newydd Fflur Dafydd yn ymddangos ar S4C. Eisioes mae’r gyfres wedi ennill ei phlwy’, gyda Sioned Williams yn canmol y gyfres ar raglen Dewi Llwyd (grandewch eto yma) fel  “drama soffistigedig, gyfoes ac aeddfed ei naws, sy’n hynod o afaelgar” a DJ BBC Radio 1 Huw Stephens yn cyhoeddi ei fod yn “arbennig o dda. Tense, doniol, twists, plot da, actio briliant.”

Dyma fwy o adolygiadau ffafriol isod:

Wales in the Movies – darllenwch yma

The Killing Times TV – darllenwch yma

Get the Chance – darllenwch yma

35 Awr

Nos Sul, 9.00
yh
Isdeitlau Saesneg                      

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C