Dathlu diweddglo cyfres 35 awr

Cafwyd noson wych yng Nghanolfan Yr Egin, Caerfyrddin ar nos Sul, Chwefror 24, i ddathlu diwedd cyfres gyffrous Fflur, 35 awr. Cafwyd sesiwn holi ac ateb gyda aelodau’r cast a thim creadigol allweddol (Fflur, Paul Jones, Rhys Powys) yn dilyn y dangosiad, gyda Gillian Elisa yn diddanu trwy esbonio sut greodd hi Val, a Jâms Thomas yn esbonio faint o golur oedd eisiau ar Haydn fel dyn ar dân. Cafwyd ymateb gwych ar y cyfryngau cymdeithasol a hefyd adolygiadau mwy manwl ar wefannau Wales in the Movies a The Killing Times. Darllenwch yr adolygiadau isod.

Adolygiad The Killing Times

Adolygiad Wales in The Movies

 

Rhag-ddangosiad: Pennod olaf 35 AWR + sesiwn holi (Caerfyrddin)

Ar nos Sul, 24ain o Chwefror 2019 am 7:00yh, fe fydd dangosiad arbennig o bennod olaf y gyfres gyffrous 35 awr yn cael ei dangos yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin.

Fe fydd Boom Cymru ac S4C yn cyflwyno pennod olaf y gyfres wyth-rhan a osodir mewn ystafell reithgor, gyda 12 o bobl yn trafod achos o lofruddiaeth.

Mae Fflur erbyn hyn wedi derbyn sawl enwebiad gan BAFTA Cymru (awdur gorau am Y Llyfrgell, cyfres ddrama orau am Parch) ac mae sêr y gyfres yn cynnwys Gillian Elisa (Craith) Lisa Marged (Parch, Wolfblood) a Jâms Thomas (Torchwood, Gwaith Cartref).

Bydd sesiwn holi ac ateb gyda aelodau’r cast a thim creadigol allweddol yn dilyn y dangosiad.

Tocynnau cyhoeddus yma

Dilynwch y gyfres bob dydd Sul am 9pm ar S4C a dal i fyny gyda phenodau y gallech fod wedi’u colli ar yr iplayer.

Gwobr Hartswood a BBC Writersroom

Yr wythnos hon fe gyhoeddwyd mai Fflur, ar y cyd gyda’r awdur Alan Harris, yw enillydd gwobr Hartswood a BBC Writersroom, cynllun sy’n rhoi’r cyfle i awduron profiadol i ddatblygu eu gwaith ymhellach a chynnig syniad drama wreiddiol i’r BBC. Mae’r cynllun wedi ei noddi gan ScreenSkills High-end TV Fund, ac fe fydd Fflur yn derbyn ysgoloriaeth dros y chwe mis nesaf i ddatblygu syniadau gwreiddiol i gwmni Hartswood, cwmni sy’n gyfrifol am raglenni cyffrous fel Sherlock i’r BBC. Fel rhan o’r ysgoloriaeth, fe fydd Fflur yn derbyn cyngor gan rai o awduron teledu mwyaf llwyddiannus Cymru, Russell T Davies (A Very English Scandal, Doctor Who) a Cath Tregenna (Torchwood, Law & Order).

Meddai Fflur: “Dwi wedi edmygu gwaith Hartswood Films ers amser, ac mae’n wych i gael cydweithio â nhw i ddatblygu syniad newydd a chyffrous ar gyfer y BBC. Dwi’n teimlo’n angerddol dros bortreadu cymeriadau Cymraeg a Chymreig ar y sgrin fach mewn ffordd sy’n dangos pa mor naturiol ddoniol, diddorol a gwahanol ydyn ni fel pobl. Mi fydd hi’n wych i gael rhywun mor brofiadol â Russell T Davies yn goruchwylio’r broses.”

 

 

35 awr yn cael derbyniad chwilboeth

Yr wythnos hon fe fydd y drydedd bennod o thriller newydd Fflur Dafydd yn ymddangos ar S4C. Eisioes mae’r gyfres wedi ennill ei phlwy’, gyda Sioned Williams yn canmol y gyfres ar raglen Dewi Llwyd (grandewch eto yma) fel  “drama soffistigedig, gyfoes ac aeddfed ei naws, sy’n hynod o afaelgar” a DJ BBC Radio 1 Huw Stephens yn cyhoeddi ei fod yn “arbennig o dda. Tense, doniol, twists, plot da, actio briliant.”

Dyma fwy o adolygiadau ffafriol isod gan Wales in the Movies a The Killing Times TV:

Wales in the Movies – darllenwch yma

The Killing Times TV – darllenwch yma

35 Awr

Nos Sul, 9.00
yh
Isdeitlau Saesneg                      

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C

35 Awr: Drama ysgytwol, blaen-eich-sedd i danio 2019


‘Pan ddaw yr awr, fe ddaw y dyn’ – ac yng nghyd-destun teledu, dyma’r gyfres fydd yn siŵr o achub unrhyw Ionawr diflas; y ddrama ensemble murder mystery i hoelio’ch sylw ac i ragori ar unrhyw Agatha Christie neu gêm feddwol o Cluedo.

Cywaith newydd, cyffrous rhwng S4C a chwmni cynhyrchu Boom Cymru yw’r gyfres gynhyrfus hon, sy’n cyfuno cyfarwyddo steilus, perfformiadau cynnil, a sgriptio crefftus gan Fflur Dafydd, mewn wyth pennod awr o hyd, yn dechrau ar S4C ar Ionawr 6ed.

Y cynhyrchydd, Paul Jones, sy’n crynhoi’r cyfan mewn ffigyrau: ‘Tu fewn i ffiniau’r ddrama, mae’r cyfan yn digwydd dros gyfnod o 35 awr – gydag 1 achos llys o lofruddiaeth, 12 aelod rheithgor, 3 marwolaeth, 2 ddamwain, a llawer iawn o broblemau personol’.

‘Ychwanegwch at hyn 1 olygfa rywiol na welwyd mo’i thebyg ar S4C o’r blaen, ac mae ‘na gryn botensial i fywiogi’ch misoedd gaeafol llwm…’

Er ei bod yn perthyn i’r gyfres boblogaidd 35 Diwrnod, mi fydd 35 Awr yn sicr yn dilyn llwybr ychydig yn wahanol i’r gweddill, gyda chyfyngiad ar yr amseru arferol, naws gyflymach a gafaelgar o’r cychwyn cyntaf, a dwy stori whodunnit yn cyd-redeg.

Mae’r ddwy stori yma’n cynnwys hanes presennol aelodau’r rheithgor wrth iddynt drin yr achos llys a’u bywydau cymhleth mewn ystafell reithgor a gwesty crand; a stori’r achos troseddol dan sylw, sy’n raddol ddatblygu drwy flashbacks a’r amser presennol.

Yn chwarae’r 12 ‘dieithryn’ yma o wahanol gefndiroedd y mae cast ensemble gwych, gan gynnwys Gillian Elisa, Christine Pritchard, Jâms Thomas, Lisa Victoria – yn ei rôl cyntaf ers Pobol y Cwm, Tara Bethan, Iestyn Arwel, Rebecca Hayes, Dafydd Llŷr Tomas, Lisa Marged, Aled Pedrick, Carwyn Jones a Gareth John Bale; hefyd yn serennu’n y ddrama y mae Ioan Hefin a Lowri Palfrey a dau actor addawol newydd, Aled ap Steffan a Sion Eifion.

Rhyngddynt, maent yn chwarae llu o gymeriadau diddorol, gan gynnwys diffynnydd trist a chythryblus, llyfrgellydd ffyslyd gydag OCD, merch ifanc gynllwyngar, a mam emosiynol mewn penbleth – a doedd yr un actor yn cael gwybod cynnwys sgriptiau’r lleill, na chwaith pa gysylltiad yr oedd ganddynt â marwolaeth yr agoriad.

Fel y cyfresi blaenorol, y ‘farwolaeth’ amheus hyn fydd yn hoelio’n sylw ar y dechrau, ac yn ystod eiliadau agoriadol y bennod gyntaf – cyn i ni droi at drafodion y rheithgor – cawn fflach sydyn o erchylltra’r diweddglo, wrth i gorff person byw ar dân chwyrlïo o flaen y gwesty.

Ac os yw’r farwolaeth honno’n hollol ddychrynllyd, mae llofruddiaeth yr achos llys yn creu anghysur mewn ffordd arall, sinistr, cymhleth, emosiynol a thrasig, ac yn arwain at fygythiad gwirioneddol i ddiogelwch personol aelodau’r rheithgor o sawl cyfeiriad.

Y bygythiad hyn sy’n golygu bod yn rhaid symud y 12 rheithiwr – sydd yng nghanol trafod eu dedfryd – i westy gwledig crand i ddisgwyl cyfarwyddiadau pellach; ond wrth gwrs mae’r gwin yn llifo, y tafodau’n llacio, a’r emosiynau’n tasgu – a chawn ymgecru, ymladd, perthnasau rhywiol, cynllwynio, twyll a mwy…

Meddai’r awdur Fflur Dafydd, sydd hefyd yn adnabyddus am sgriptio’r gyfres boblogaidd Parch a’r ffilm gyffrous Y Llyfrgell, ‘Yr eironi llwyr wrth gwrs yw bod criw o bobl rhagfarnllyd a mympwyol sydd â’u bywydau anniben eu hunain, yn gyfrifol am drafod achos llys cymhleth a phenderfynu ar euogrwydd dieithryn.’

‘Dw i’n credu taw’r cymeriad tawel a dwys, Steve, sy’n crisialu hyn orau wrth ddweud: ‘Jest pobl ‘y ni – pobl amherffaith gyda pob siort o ragfarnau – a ni sy’ fod i weithio mas beth yw’r gwir’’.

‘Mae’r cymeriadau mewn sefyllfa pressure cooker anghyffredin oherwydd pwysau’r achos a’r cyfyngiad ar eu rhyddid – ac mae potensial i’r holl beth droelli allan o reolaeth yn llwyr.’

‘Ond er mor dywyll yw’r digwyddiadau, mae ‘na hiwmor anorfod yn deillio o’r ffaith fod yn rhaid i 12 person sydd â dim byd yn gyffredin dreulio gymaint o amser gyda’i gilydd!”

I wylio’r holl beth yn datgymalu, cofiwch wylio S4C yn wythnosol am 9yh nos Sul, o Ionawr 6ed.

35 Awr

Nos Sul 6 Ionawr, 9.00

Isdeitlau Saesneg                      

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C

Enwebiad BAFTA Cymru i gyfres deledu Fflur


Yr wythnos hon fe dderbyniodd cyfres Fflur, PARCH, enwebiad BAFTA Cymru am y ddrama deledu orau. Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r gyfres dderbyn yr enwebiad, ac y llynedd derbyniodd gynyrchiadau Fflur 6 enwebiad i gyd, gan gynnwys enwebiad am yr awdur gorau am ei ffilm Y Llyfrgell.

Daeth Parch i ben ym mis Ebrill wedi siwrne gythryblus, gyffrous dros dair cyfres i’r prif gymeriad, Myfanwy Elfed (Carys Eleri) a cafwyd diweddglo ysgytwol ac emosiynol. Dywedodd y beirniad teledu Sioned Williams: “Bydd creadigaeth unigryw a bythgofiadwy Fflur Dafydd, Myfanwy Elfed yn Parch, yn aros fel un o ffigyrau eiconig drama deledu Gymraeg.”

Y Parch yn rhoi’r byd yn ei le – gan ddechrau ar y stryd

O rithiau i osgoi marwolaeth, mae’r ddrama am fywyd cyffrous ac anarferol y cyn-Barchedig Myfanwy Elfed yn dychwelyd i S4C am drydedd gyfres nos Sul, 4 Mawrth. Ar ddiwedd yr ail gyfres, adawom ni Myfanwy a’i ffrindiau wrth iddyn nhw ddelio â cholli Mr Jarman – gofalwr cwerylgar yr Eglwys, ac roedd Myfanwy wedi ymbellhau o’i rôl fel Ficer yr Eglwys ac roedd hi’n Gaplan yng nghanol y dref.

Wrth inni ail-ymuno â Myfanwy, mae hi wedi ymbellhau ymhellach o’r Eglwys ac mae hi nawr yn gobeithio gwneud gwahaniaeth yn y byd wrth helpu’r digartref ar strydoedd Treffwrnes. Yn ogystal â helpu i redeg cegin cawl gyda’i ffrind newydd, Elain, sy’n cael ei phortreadu gan yr actores Bethan Bevan, mae Myfanwy hefyd yn gweithio fel Bugail y Stryd, yn gofalu am bobl sydd wedi meddwi gyda’r nos.

Wrth weithio fel Bugail y Stryd mae Myfanwy yn cwrdd â Rhodri – person digartref sydd â chefndir dirgel sy’n cael ei bortreadu gan yr actor Ryland Teifi. “Mae Myfanwy yn ceisio ei gorau i helpu Rhodri, ond am ryw reswm mae’n gwrthod ei help,” meddai Carys Eleri, 35 oed, sy’n portreadu
Myfanwy yn y ddrama. Yn fuan mae’n dod yn amlwg bod mwy i Rhodri na’r disgwyl, ac mae Myfanwy yn cwestiynu os yw’n berson go iawn neu’n rhith arall. Cyn hir, daw Myf i weld bod ei hawch i helpu pobl yn medru ymyrryd ar fywydau sawl un yn y dref.

“Mae digartrefedd yn thema fawr yn y gyfres hon, ac mae’n berthnasol i ni gyd ar hyn o bryd,” meddai Carys, sydd o’r Tymbl Uchaf, Sir Gâr yn wreiddiol ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nhreganna ger canol dinas Caerdydd, “Fi wir ffaelu dod drosto’r cynnydd yn nifer y digartref yng Nghaerdydd – mae mor drist. Gobeithio bydd y gyfres yn ysgogi ein gwylwyr i helpu’r digartref.”

Mae’r digartrefedd yn y gyfres yn atsain y ffaith fod Myfanwy ei hunan wedi colli ei ffordd ers iddi ddarganfod yr anewrysm yn ei hymennydd yn y gyfres gyntaf: mae hi’n colli ei ffydd yn fwyfwy ac mae ei rôl fel gwraig, fel mam ac fel merch wedi lleihau.

“Mae’r anewrysm wedi ysgogi Myfanwy i fyw’r bywyd roedd hi eisiau ac i gydnabod ei theimladau tuag at Eurig. Mi wnaeth hi hefyd ddechrau cwestiynu ei rôl yn yr Eglwys ac yn ei phriodas, rhywbeth roedd hi’n gwneud ers cyn i ni ei chwrdd.”

O ganlyniad, mae Carys yn credu ein bod ni nawr yn gweld ochr fwy dewr o’r cymeriad – person sydd bellach ddim wedi’i rhwymo gan ei moesgarwch ei hunan, a bod gweithio ar strydoedd Treffwrnes i helpu eraill yn dangos ei bod yn benderfynol o wneud beth y gall hi er mwyn gwneud y byd yn lle gwell.

Ond wrth gwrs, mae’r triawd rhwng Myfanwy, ei gwr Terwyn, a channwyll llygad Myfanwy ers y gyfres gyntaf, Eurig, dal heb ddirwyn i ben. Ar ddiwedd y gyfres ddiwethaf, mi wnaeth Terwyn godi braw ar Myfanwy wrth ofyn am ysgariad.

“Fi ffaelu rhoi’r prif ‘gossip’ bant – ond mae Myfanwy a Terwyn yn parhau wedi gwahanu yn y bennod gyntaf,” meddai Carys.

Parch
Nos Sul 4 Mawrth 9.00, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg
Ar alw: s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C

Sgript gomedi yn cyrraedd rownd derfynol 'Find Me Funny'

Mae sgript gomedi gyntaf Fflur ‘The Other Team’ (a gafodd ei gyd-sgwennu gan Huw Davies), wedi cyrraedd ffeinal cystadleuaeth ‘Find Me Funny’ – cynllun gan BBC Cymru Wales i ddarganfod lleisiau newydd ym myd comedi yng Nghymru. Fe fydd 3 rhaglen beilot yn cael eu cynhyrchu yn
dilyn y cynllun, ac yn cael eu darlledu ar BBC One Wales a’r BBC iPlayer. Cafodd 350 o geisiadau eu derbyn, ac fe gafodd sgript Huw a Fflur ei ddewis fel un o’r wyth olaf.

Comedi sefyllfa yw ‘The Other Team’, wedi ei lleoli yn Nhrecorryn (fersiwn ffuglennol o Gastell Newydd Emlyn), lle mae’r prif gymeriadau Cerys a Fiona yn syrthio mewn cariad wrth wylio eu gwyr yn chwarae rygbi i’r tim lleol. Mae Parch, cyfres ddrama wreiddiol Fflur, hefyd yn dychwelyd i’r
sgrin yr wythnos hon, ar Nos Sul, Mawrth y 4ydd ar S4C a’r BBC iPlayer. Fflur hefyd sy’n sgwennu y gyfres nesaf o 35 Diwrnod i Boom Cymru, ac fe fydd honno yn cael ei darlledu yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 2018.