Mae’r ffilm Y Llyfrgell yn gywaith rhwng Fflur a’r cyfarwyddwr nodedig Euros Lyn – wedi ei chyfarwyddo gan Euros, ei hysgrifennu gan Fflur, a’i chynhyrchu gan y ddau o dan adain eu cwmni Ffilm Ffolyn. Mae’n seiliedig ar nofel boblogaidd Fflur Dafydd o’r un enw ac mae’n thriller cyffrous sydd wedi ei gosod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru. Catrin Stewart sy’n arwain y cast fel yr efeilliaid Ana a Nan, ac mae’r ffilm hefyd yn cynnwys Ryland Teifi (35 Diwrnod, Tir) Dyfan Dwyfor (Pride, Y Gwyll/Hinterland) a Sharon Morgan (Resistance, Torchwood). Fe enillodd y ffilm hon y wobr am y Perfformiad Gorau mewn Ffilm Brydeinig yng Ngwyl Ffilm Rhyngwladol Caeredin, (y ffilm Gymraeg gyntaf i gyflawni’r gamp honno), ac mae wedi derbyn llu o enwebiadau ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
Derbyniodd 4 enwebiad BAFTA Cymru yn 2017, a chipio’r wobr am y Cyfarwyddwr Gorau. Mae’r ffilm yn cael ei gwerthu’n rhyngwladol gan Media Luna Films a hyd yma wedi cael ei dangos yn America, India, China, yr Eidal, a Luxembourg.