Y Parch yn rhoi’r byd yn ei le – gan ddechrau ar y stryd

O rithiau i osgoi marwolaeth, mae’r ddrama am fywyd cyffrous ac anarferol y cyn-Barchedig Myfanwy Elfed yn dychwelyd i S4C am drydedd gyfres nos Sul, 4 Mawrth. Ar ddiwedd yr ail gyfres, adawom ni Myfanwy a’i ffrindiau wrth iddyn nhw ddelio â cholli Mr Jarman – gofalwr cwerylgar yr Eglwys, ac roedd Myfanwy wedi ymbellhau o’i rôl fel Ficer yr Eglwys ac roedd hi’n Gaplan yng nghanol y dref.

Wrth inni ail-ymuno â Myfanwy, mae hi wedi ymbellhau ymhellach o’r Eglwys ac mae hi nawr yn gobeithio gwneud gwahaniaeth yn y byd wrth helpu’r digartref ar strydoedd Treffwrnes. Yn ogystal â helpu i redeg cegin cawl gyda’i ffrind newydd, Elain, sy’n cael ei phortreadu gan yr actores Bethan Bevan, mae Myfanwy hefyd yn gweithio fel Bugail y Stryd, yn gofalu am bobl sydd wedi meddwi gyda’r nos.

Wrth weithio fel Bugail y Stryd mae Myfanwy yn cwrdd â Rhodri – person digartref sydd â chefndir dirgel sy’n cael ei bortreadu gan yr actor Ryland Teifi. “Mae Myfanwy yn ceisio ei gorau i helpu Rhodri, ond am ryw reswm mae’n gwrthod ei help,” meddai Carys Eleri, 35 oed, sy’n portreadu
Myfanwy yn y ddrama. Yn fuan mae’n dod yn amlwg bod mwy i Rhodri na’r disgwyl, ac mae Myfanwy yn cwestiynu os yw’n berson go iawn neu’n rhith arall. Cyn hir, daw Myf i weld bod ei hawch i helpu pobl yn medru ymyrryd ar fywydau sawl un yn y dref.

“Mae digartrefedd yn thema fawr yn y gyfres hon, ac mae’n berthnasol i ni gyd ar hyn o bryd,” meddai Carys, sydd o’r Tymbl Uchaf, Sir Gâr yn wreiddiol ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Nhreganna ger canol dinas Caerdydd, “Fi wir ffaelu dod drosto’r cynnydd yn nifer y digartref yng Nghaerdydd – mae mor drist. Gobeithio bydd y gyfres yn ysgogi ein gwylwyr i helpu’r digartref.”

Mae’r digartrefedd yn y gyfres yn atsain y ffaith fod Myfanwy ei hunan wedi colli ei ffordd ers iddi ddarganfod yr anewrysm yn ei hymennydd yn y gyfres gyntaf: mae hi’n colli ei ffydd yn fwyfwy ac mae ei rôl fel gwraig, fel mam ac fel merch wedi lleihau.

“Mae’r anewrysm wedi ysgogi Myfanwy i fyw’r bywyd roedd hi eisiau ac i gydnabod ei theimladau tuag at Eurig. Mi wnaeth hi hefyd ddechrau cwestiynu ei rôl yn yr Eglwys ac yn ei phriodas, rhywbeth roedd hi’n gwneud ers cyn i ni ei chwrdd.”

O ganlyniad, mae Carys yn credu ein bod ni nawr yn gweld ochr fwy dewr o’r cymeriad – person sydd bellach ddim wedi’i rhwymo gan ei moesgarwch ei hunan, a bod gweithio ar strydoedd Treffwrnes i helpu eraill yn dangos ei bod yn benderfynol o wneud beth y gall hi er mwyn gwneud y byd yn lle gwell.

Ond wrth gwrs, mae’r triawd rhwng Myfanwy, ei gwr Terwyn, a channwyll llygad Myfanwy ers y gyfres gyntaf, Eurig, dal heb ddirwyn i ben. Ar ddiwedd y gyfres ddiwethaf, mi wnaeth Terwyn godi braw ar Myfanwy wrth ofyn am ysgariad.

“Fi ffaelu rhoi’r prif ‘gossip’ bant – ond mae Myfanwy a Terwyn yn parhau wedi gwahanu yn y bennod gyntaf,” meddai Carys.

Parch
Nos Sul 4 Mawrth 9.00, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg
Ar alw: s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C