Cafwyd noson wych yng Nghanolfan Yr Egin, Caerfyrddin ar nos Sul, Chwefror 24, i ddathlu diwedd cyfres gyffrous Fflur, 35 awr. Cafwyd sesiwn holi ac ateb gyda aelodau’r cast a thim creadigol allweddol (Fflur, Paul Jones, Rhys Powys) yn dilyn y dangosiad, gyda Gillian Elisa yn diddanu trwy esbonio sut greodd hi Val, a Jâms Thomas yn esbonio faint o golur oedd eisiau ar Haydn fel dyn ar dân. Cafwyd ymateb gwych ar y cyfryngau cymdeithasol a hefyd adolygiadau mwy manwl ar wefannau Wales in the Movies a The Killing Times. Darllenwch yr adolygiadau isod.