“Os ydych yn chwilio am rhywbeth tywyllach, a mwy heriol na’r Agatha Christie nodweddiadol, yna 35 awr yw’r ddrama i chi. Mae’n thriller seicolegol ac yn ddrama drosedd, ac fe fydd yn eich harswydo a gwneud i chi chwerthin ar yr un pryd.”
– Gareth Williams, Get the Chance Wales
Cyfres gyffrous 8 pennod yw hon, yn olrhain 35 awr ym mywyd rheithgor, wedi ei hysgrifennu’n gelfydd gan Fflur Dafydd a’i chynhyrchu gan Paul Jones.
Er ei bod yn perthyn i’r gyfres boblogaidd 35 Diwrnod, y mae 35 Awr yn sicr yn dilyn llwybr ychydig yn wahanol i’r gweddill, gyda chyfyngiad ar yr amseru arferol, naws gyflymach a gafaelgar o’r cychwyn cyntaf, a dwy stori whodunnit yn cyd-redeg.
Mae’r ddwy stori yma’n cynnwys hanes presennol aelodau’r rheithgor wrth iddynt drin yr achos llys a’u bywydau cymhleth mewn ystafell reithgor a gwesty crand; a stori’r achos troseddol dan sylw, sy’n raddol ddatblygu drwy flashbacks a’r amser presennol.
Yn chwarae’r 12 ‘dieithryn’ yma o wahanol gefndiroedd y mae cast ensemble gwych, gan gynnwys Gillian Elisa, Christine Pritchard, Jâms Thomas, Lisa Victoria – yn ei rôl cyntaf ers Pobol y Cwm, Tara Bethan, Iestyn Arwel, Rebecca Hayes, Dafydd Llŷr Tomas, Lisa Marged, Aled Pedrick, Carwyn Jones a Gareth John Bale; hefyd yn serennu’n y ddrama y mae Ioan Hefin a Lowri Palfrey a dau actor addawol newydd, Aled ap Steffan a Sion Eifion.
Gwyliwch y gyfres i gyd YMA
Darllenwch adolygiadau YMA