“Mae’r bumed gyfres o 35 Diwrnod yn cadarnhau statws Fflur Dafydd fel storiwraig heb ei hail.”
– Gareth Williams, Get the Chance Wales.
Dyma’r bumed gyfres o’r thriller poblogaidd 35 Diwrnod, a’r ail wedi ei sgriptio gan Fflur. Mae’r stori’n dilyn hynt a helynt Beth (Gwenllian Higginson) a’i darpar ŵr Dylan (Geraint Todd) sydd wrthi’n paratoi i gael priodas haf heb ei hail. Gyda 35 diwrnod tan y diwrnod mawr, mae popeth yn ei le: ffroc designer, bynting vintage, buffet sushi, gwesteion gwerth eu gweld. Ar y rhestr gwesteion mae’r hen griw o’r ysgol, y ffrindiau pennaf yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf mewn pum mlynedd. Ond mae cyfrinachau’n llechu dan yr wyneb, ac un hen ffrind ar fin dychwelyd i gorddi pawb.
Ers y gyfres gyntaf yn 2014, mae’r brand wedi ennill gwobrau Bafta Cymru i’r cwmni cynhyrchu Boom ac wedi ei haddasu i’r Saesneg gyda’r teitl 15 Days i Channel 5. Mae hi hefyd wedi gwerthu yn rhyngwladol, ac ar gael ar Britbox yn America a Rialto Channel yn Seland Newydd.
Darllenwch adolygiadiadau o’r gyfres
Get the Chance – YMA
Killing Times – YMA
Cyfweliad podcast Killing Times gyda Fflur Dafydd YMA