(Y Lolfa)
ISBN: 9780862439828
Casgliad o storïau byrion gan enillydd Medal Ryddiaith 2006, Fflur Dafydd. O’r Cymreig i’r Ewropeaidd, ac o’r dychanol i’r myfyriol, dyma gasgliad fydd yn swyno’r darllenydd, ond hefyd yn ei herio i lenwi ambell fwlch drosto’i hun.
“Mae’r naw stori yn talu’n llawn am eu lle. Ynddynt, mae popeth ac unrhyw beth yn bosibl. Ynddynt mae’r anghyffredin yn gwbl normal, yr egsentric yn gwbl resymol a’r absẃrd yn gwbl resymegol. Dyma, yn wir, berl o gyfrol gan un o’n hawduron mwyaf cyffrous.”
Lyn Ebenezer, Gwales