Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009
(Lolfa)
ISBN: 9781847711694
Ar fore oer o Chwefror, yn y flwyddyn 2020, mae Dan, un o borthorion Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wrthi’n cyflawni ei drosedd arferol yn erbyn y gyfundrefn. Yn ei gyfarch wrth y drws mae Eben, y cofiannydd, sy’n ysu am gael mynediad. Ond yn ddiarwybod i’r ddau, mae Ana a Nan, dwy lyfrgellwraig a’u bryd ar ddial, ar fin newid hanes Llyfrgell Genedlaethol Cymru am byth.
Mae’r nofel hon yn trawsnewid gofod tangnefeddus y Llyfrgell Genedlaethol yn set theatrig llawn posibiliadau – lle mae bwledi’n tarfu ar y tawelwch, yr Ystafell Ddarllen yn gell, a’r Llyfrgell ei hun yn un o wrth-arwresau mwyaf ein llên…
Y Llyfrgell Genedlaethol yn ganolbwynt i nofel Gwobr Daniel Owen
Fflur Dafydd, yr awdures a’r cerddor amryddawn, gipiodd Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Y Llyfrgell. Roedd y beirniaid yn unfryd gan ganmol dyfeisgarwch a chlyfrwch yr awdur. Dywedodd John Rowlands, “Mae’n awdur dyfeisgar dros ben, sydd wedi creu sefyllfa bron yn anhygoel, gan ein cyfareddu, ein sobri, ein harswydo, a’n goglesio ar yn ail… darn o lenyddiaeth sy’n bleser pur.
Ychwanegodd Rhiannon Lloyd, “Nofel glyfar iawn y gellir ei mwynhau ar sawl lefel, ac mae’r stori’n ardderchog.” Y Llyfrgell Genedlaethol yn 2020 yw’r cefndir i’r nofel ac mae Fflur yn cyfaddef iddi gael ei hysbrydoli i sgwennu am y llyfrgell pan yn astudio am ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dywedodd, “Roeddwn yno bob dydd am fisoedd a cefais fy hun yn breuddwydio am bob math o sefyllfaoedd dramatig a chyffrous!”
“Nofel glyfar iawn y gellir ei mwynhau ar sawl lefel, ac y mae ynddi stori ardderchog.”
– Rhiannon Lloyd
“Mae’n awdur dyfeisgar dros ben, sydd wedi creu sefyllfa bron yn anhygoel, gan ein cyfareddu, ein sobri, ein harswydo, a’n gogleisio ar yn ail… darn o lenyddiaeth sy’n bleser pur.”
– John Rowlands
“Nofel wedi ei chynllunio’n ofalus ac yn gyforiog o hiwmor a choegni a chlyfrwch tafod-mewn-boch.”
– Geraint Vaughan Jones