Parch yw’r gyfres deledu boblogaidd a grëwyd ac ysgrifennwyd gan Fflur i gwmni Boom Cymru, gyda Carys Eleri yn serennu yn y brif rhan fel Myfanwy Elfed. Mae’r ddrama yn dilyn hynt a helynt ficer benywaidd yn ystod adeg helbulus yn ei bywyd, ac yn ddrama sydd yn cyfuno elfennau o realaeth ac abswrdiaeth, yn nhraddodiad dramâu fel Con Passionate a Fondue, Rhyw a Deinasors. Fe enwebwyd yr ail gyfres am ddwy wobr BAFTA Cymru yn 2017 – sef gwobr yr Actores Orau a’r Ddrama Deledu Orau. Mae’r gyfres hefyd yn cael ei darlledu ar iPlayer y BBC ac wedi ennill cynulleidfa dros y ffin.
