Cyhoeddwr: Y Lolfa
Dyddiad Cyhoeddi: Ionawr 2021
ISBN: 9781800990289
Mae cyfnodau bywyd yn cael eu mesur yn ôl cyfnodau’r lleuad yn y gyfrol unigryw hon gan y nofelydd a’r sgriptwraig arobryn Fflur Dafydd. Mae’r penodau unigol yn cynnig myfyrdod ar sawl profiad bywyd a gafwyd yng ngolau’r lleuad – o anturiaethau plentyndod magwraeth wledig o’r 1980au i fyfyrdodau awdur sy’n chwilio am ysbrydoliaeth, o gariad cyntaf i brofiadau nosluniol o fod yn fam.
Wedi’i hysgrifennu gyda’i chyfuniad nodweddiadol o ddidwylledd, hiwmor a threiddgarwch, mae’r llyfr yn tynnu ar ystod o ddylanwadau – gwyddonol, barddonol – i archwilio ei destun, a rhagflaenir pob pennod gan fyfyrdod byr, telynegol ar bob cyfnod lleuadol. Mae’r casgliad hefyd yn tynnu portreadau o eraill yr oedd eu bywydau wedi’u heffeithio gan y ‘sic itur ad astra’: mae’n crybwyll yr athrawes a’r ofodwraig Americanaidd Christa McAuliffe, a’r gweinidog a seryddwr Cymreig John Silas Evans, ac mae’n gynfas cosmig eang sy’n taflu goleuni ar berthnasau agos hefyd, gan wneud i ni gwestiynu ein lle yn y bydysawd, o dan y lloer.