Addasiad Saesneg Fflur Dafydd o’i Nobel arobryn Y Llyfrgell. Mae’r efeilliaid Ana a Nan ar goll ar ôl marwolaeth eu mam. Mae pawb yn gwybod pwy a yrrodd Elena, y nofelydd enwog, i hunanladdiad – ei beirniad llenyddol hirdymor, Eben. Ond mae angen prawf ar yr efeilliaid os ydyn nhw’n mynd i ddial arno.
Ag yntau’n ysu i glirio ei enw, mae Eben yn gofyn am yr hawl i ddarlden dyddiaduron Elena yn y Llyfrgell Genedlaethol lle mae’r efeilliaid yn gweithio. Gyda chynllunio gofalus, mae’r efeilliaid yn cloi’r adeilad i lawr, gan ddal eu cydweithwyr, y cyhoedd ac yn bwysicaf oll Eben y tu mewn. Ond wrth i swyddog diogelwch ddechrau rhyddhau gwystlon, mae’r cynllun yn datod. Ac mae’r hyn a ddechreuodd fel gweithred unfryd yn troi’n gawdel cymhleth.