Thriller ‘trosedd celf’ yw Yr Amgueddfa sydd wedi ei leoli yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn bennaf. Crëwyd a sgriptiwyd y gyfres gan Fflur Dafydd ac fe’i gynhyrchwyd gan Boom Cymru.
Disgrifwyd y ddrama gan S4C fel thriller cadwraethol, sydd yn datguddio byd tywyll a pheryglus trosedd celf. Cychwynwyd ffilmio’r gyfres yn Ionawr 2021, gyda’r darllediad cyntaf ar ddiwedd Mai 2021. Fe’i darlledwyd yn y slot ddrama arferol am 9pm nos Sul.
Ar 26 Rhagfyr 2022, rhyddhawyd holl benodau yr ail gyfres i’w ffrydio ar Clic ac iPlayer. Dangoswyd yr ail gyfres yn wythnosol ar S4C gan gychwyn o nos Sul, 1 Ionawr 2023.
Fe enwebwyd y gyfres am BAFTA Cymru, gwobr RTS Cymru a gwobr y ddrama orau yn yr Wyl Gyfryngau Geltaidd. Mae’r gyfres wedi gwerthu i Britbox yn America a Chanada, sianel AXN Mystery yn Siapan, a sianel EITB yn Sbaen.