(Y Lolfa)
ISBN: 0862439337
Ynys Enlli yw prif gymeriad y nofel hon – yr ynys a’i hatyniad sy’n rheoli llanw a thrai teimladau’r cymeriadau lliwgar, yn ynyswyr, ymwelwyr ac awduron ddaw i’r ynys am gyfnod byr i chwilio am ddihangfa, llonyddwch a serch. Yng nghwmni un o’r awduron preswyl ceir darlun cyfareddol o ddylanwad yr ynys ar bobl a’u breuddwydion…
“Yr hyn sy’n atyniadol yn y nofel yw ei ffresni, ffresni ei chymeriadaeth, ffresni ei harddull farddonol, ffresni ei digwyddiadau a’i hadroddiadau.”
– Derec Llwyd Morgan
“Nodaf hefyd fy mod yn berffaith sicr fod Eisteddfod Abertawe a’r Cylch, wrth wobrwyo Matigari, yn gwobrwyo awdur a rydd gryn ddiddanwch llenyddol i bawb a gâr rialtwch a difrifwch bywyd rhwng dau glawr.”
– Derec Llwyd Morgan
“Mae’r nofel hon yn gelfydd ac yn argyhoeddi…mae’r cyfanwaith yn fywiog ac apelgar, ac yn codi cwestiynau digon dwys ynghylch dylanwad llefydd arbennig ar rigolau bywyd.”
– Jane Aaron
“Dyma wir artist y gystadleuaeth…prin bod tudalen o’r gwaith heb enghraifft o ddawn dweud anghyffredin, gyda’r awdur ar ei orau wrth ddangos y mân ganfyddiadau sydd yn dadlennu newidiadau sylfaenol mewn perthynas pobl â’i gilydd.”
– Grahame Davies