Ar nos Sul, 24ain o Chwefror 2019 am 7:00yh, fe fydd dangosiad arbennig o bennod olaf y gyfres gyffrous 35 awr yn cael ei dangos yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin.
Fe fydd Boom Cymru ac S4C yn cyflwyno pennod olaf y gyfres wyth-rhan a osodir mewn ystafell reithgor, gyda 12 o bobl yn trafod achos o lofruddiaeth.
Mae Fflur erbyn hyn wedi derbyn sawl enwebiad gan BAFTA Cymru (awdur gorau am Y Llyfrgell, cyfres ddrama orau am Parch) ac mae sêr y gyfres yn cynnwys Gillian Elisa (Craith) Lisa Marged (Parch, Wolfblood) a Jâms Thomas (Torchwood, Gwaith Cartref).
Bydd sesiwn holi ac ateb gyda aelodau’r cast a thim creadigol allweddol yn dilyn y dangosiad.
Tocynnau cyhoeddus yma
Dilynwch y gyfres bob dydd Sul am 9pm ar S4C a dal i fyny gyda phenodau y gallech fod wedi’u colli ar yr iplayer.