Fe ddychwelodd drama drosedd Fflur, 35 Diwrnod, i’r sgrin ar nos Sul, Ebrill 26ain, ac y mae’r gyfres eisioes wedi cael derbyniad ffafriol yng Nghymru a thu hwnt, gyda’r Sunday Times yn dewis y gyfres fel ‘Critics’ Choice’ gan ganmol y sgriptio ‘doniol a beiddgar.’ Dywedodd Dylan Wyn Williams hefyd fod y gyfres yn ‘argoeli i fod gyda’r gorau o frand llwyddiannus 35 eto,’ a nododd Sioned Williams ar raglen Dewi Llwyd ei bod yn ‘cynnig adloniant ac yn eich cadw ar flaen eich sedd.’
Llynedd symudodd y brand o 35 Diwrnod i 35 Awr gyda’r ddrama gyfan wedi gosod mewn gwesty. Cafodd Fflur ei henwebu gan Bafta Cymru am ei gwaith ar y gyfres a nawr mae hi nôl fel awdur y pumed cyfres – 35 Diwrnod: Parti Plu.
Mae Beth (Gwenllian Higginson) a’i darpar ŵr Dylan (Geraint Todd) yn mynd i gael priodas haf heb ei hail. Gyda 35 diwrnod tan y diwrnod mawr, mae popeth yn ei le: ffroc designer, bynting vintage, buffet sushi, gwesteion gwerth eu gweld.
Ar y rhestr gwesteion mae’r hen griw o’r ysgol, y ffrindiau pennaf yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf mewn pum mlynedd. Ond sut mae ail-gydio yn y berthynas honno ar ôl popeth sydd wedi digwydd?
Dyma Fflur yn esbonio mwy am y stori: “Bydd na gorff, fel pob gyfres 35 arall, ar ddechrau’r bennod cyntaf, a hynny ar ddiwrnod y briodas – da ni’n gweld veil yn y dŵr a chorff. Felly da ni’n gwybod bod llofruddiaeth – dyna beth yw brand 35 – llofruddiaeth ac wedyn mynd nôl i weld pwy sy’n gyfrifol. Ond dyw’r un yma ddim yn teimlo fel gymaint o whodunnit rhywsut – y cymeriadau a’u cyfrinachau sydd o ddiddordeb i ni y tro hwn.”
Ers y gyfres gyntaf yn 2014, mae’r brand wedi ennill gwobrau Bafta Cymru i’r cwmni cynhyrchu Boom ac wedi ei haddasu i’r Saesneg gyda’r teitl 15 Days i Channel 5. Mae hi hefyd wedi gwerthu yn rhyngwladol, ac ar gael ar Britbox yn America a Rialto Channel yn Seland Newydd.
Mae 35 Diwrnod yn parhau ar nos Sul ar S4C, ac mae ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer gyda isdeitlau Saesneg.